'Rwy'n teimlo 'mod yn llesg a gwan

(Megys dy ddyddiau, y bydd dy nerth.)
'Rwy'n teimlo 'mod yn llesg a gwan,
Heb allu dringo fawr i'r lan:
  Ond gair fy Nuw
      a nertha'm ffydd,
  Trwy ddweyd caf nerth
      yn ol y dydd.

Er bod gelynion cedyrn iawn,
Yn curo'n dost o fore i nawn;
  Credadyn llesg, gorchfygol fydd,
  Trwy dderbyn nerth
      yn ol y dydd.

'Rwyf weithiau'n ofni
    pwysau'r groes,
A chyfyngderau llym fy oes;
  Ond beth yw'r
      achos ofni sydd,
  Tra paro nerth
      yn ol y dydd?

Yr angeu du yn fuan ddaw,
Caf deimlo pwys
    ei farwol law;
  Ond o'i afaelion d'of yn rhydd,
  Caf nerth pryd hyn
      yn ol y dydd.
Joseph Harris (Gomer) 1773-1825

Tôn [MH 8888]:
Babilon (Thomas Campion 1567-1620)
St Cross (John B Dykes 1823-76)
Windham (Daniel Read 1757-1836)

(As thy days, so shall thy strength be.)
I am feeling that I am feeble and weak,
Without much power to climb up:
  But the word of my God
      shall strengthen my faith,
  Through saying I shall get strength
      according to the day.

Although my enemies are very strong,
Beating sorely from morning until evening;
  A weak believer, an overcomer shall be,
  Through receiving strength
      according to the day.

I am sometimes fearing
    the weight of the cross,
And the sharp straits of my age;
  But what is the cause
      of the fear there is,
  While strength endures
      according to the day?

The black death shall soon come,
When I shall get to feel the weight
    of its deathly hand;
  But from its grips I shall come free,
  I shall get strength at that time
      according to the day.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~