'Rym wrth dy fwrdd, O Arglwydd cun, Yn ceisio'th weled di dy hun; Gwag ydyw'r bwrdd, trist ydyw'r wledd, Heb weled dull dy hyfryd wedd. Dy ogoniant mawr, dy angau drud, Dywyno arnom ni i gyd; A hyn wna'n gwleddoedd yn ddi drai, A hyn wna ini lawenhau. Ni gawn ymddangos cyn bo hir, O flaen yr orsedd ddysglaer glir, Mewn gwisgoedd gwynion, lleision, rhad, Wedi'u taenellu yn y gwaed. Treuliwn ein bywyd bellach byth, Mewn un llawenydd pur di lyth; Cofiwn dy enw, seiniwn glod, Tra nefoedd wen hyd fyth yn bod.William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: gwelir: Ai dyma'r arwydd ro'ist i mi? |
We are at thy table, O dear Lord, Seeking to see thee thyself; Empty is the table, sad is the feast, Without seeing the form of thy delightful countenance. May thy great glory, thy costly death, Shine upon us all; And this will make the feasts unebbing, And this will make us rejoice. We shall get to appear before long, Before the bright, shining throne, In white, flowing, loose garments, Sprinkled with the blood. Let us spend our lives henceforth forever, In one pure, unfailing joy; Let us remember thy name, let us sound praise, While bright heaven forever is.tr. 2019 Richard B Gillion |
|