'Rwy'n gweld o bell y dydd yn dod

(Y Byd yn eiddo Crist)
'Rwy'n gweld o bell y dydd yn dod
Bydd pob cyfandir is y rhod
  Yn eiddo Iesu mawr;
A holl ynysoedd maith y môr
Yn cyd-ddyrchafu mawl yr Iôr
  Dros wyneb daear lawr.

Mae teg oleuni blaen y wawr
O wlad i wlad yn dweud yn awr
  Fod bore ddydd gerllaw;
Mae pen y bryniau'n llawenhau
wrth weld yr haul yn agosáu
  A'r nos yn cilio draw.
Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) 1844-1905
Y Caniedydd Cynulleidfaol 1895

Tonau [886D]:
Chapel Royal (William Boyce 1710-79)
Pembroke (James Foster 1807-85)

(The World belonging to Christ)
I see from afar the day coming
Every continent under the sky shall
  Belong to great Jesus;
And all the vast islands of the sea
Raise together praise to the Lord
  Across the face of he earth below.

The fair initial light of the dawn is
From land to land saying now
  That the morning is at hand;
The heads of the hills are rejoicing
At seeing the sun approaching
  And the night retreating yonder.
tr. 2010 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~