Rhad rhad (Yw addewidion Duw'n ddiwâd)

(Am addewidion Duw, annog i lynu wrtho;
dymuniad i gael mwynhad o hono;
a'i gymmorth yn amser cyfyngder.)
      Rhad, rhad
Yw addewidion Duw'n ddiwâd,
Trwy rhinwedd nerth
        a gwerth y gwa'd,
  O fynwes cariad, pryniad prid!
    Ei fywyd gwirion aeth Duw gŵyr,
  I'n tynnu'n llwyr
          o dan y llîd.

      Nad, nad
I fab na merch, i fam na thâd,
Na thai na thiroedd yr holl wlad,
  O's gorfydd gad nhwy gyd i fyn'd;
    A'th einioes hefyd o's rhaid fydd,
  Cyn gado'th ffydd,
          na gwadu'th ffrynd

      Mae cwyn
Dy braidd o'u bron a'th weinion ŵyn,
Am gael trwy ffydd bob dydd ei dwyn,
  I ben y twyn, o'th fwynder fyn'd,
    I wel'd gogoniant Canaan wlad,
  Lle mae eu Tâd a'u
          ffyddlon Ffrynd.

      Pa cyd
Y caf fi fyw mewn cyfyng fyd?
Sy'n llynn o'r gofid llawn i gyd,
  Heb wel'd yr hyfryd
      hawddfyd hardd;
    O'r mawr adferiad
            braf o'i fron,
  Ar adail hon fel Eden ardd.

      Nid oes
I'r dyn â gras
        sydd dan y gro's,
Ond gweddi yn lan, a godde'r lo's,
  Wrth fynd dros yr afon gref;
    Bydd Crist trwy'r dyfroedd
            ar dy ran,
  Fe'th ddwg i'r lan
          i Ganaan nef.

      Duw, gwna
Dy fwyn addewid i ni'n dda,
Bod d'enw'r dŵr o gadarn ga,
  Yn graig o noddfa i ni a nawdd;
    Na chaffo'r gelyn mewn un wedd,
  Anturio'r cledd a'm
      taro i'r clawdd.

      Blîn, blîn
I'r rhai a brofodd Dduw'n ddi-brin,
Gas anwyl fwyn gusanau ei fin,
  Sydd well na'r gwîn
      y goreu o'r grawn;
    O dwg y rhai'n o'r drain i dre',
  I'r man a'r lle
          y mae nhwy'n llawn.
Henry John / Harri Sion 1664-1754
Hymnau Dymunol a Phrofiadol 1773

gwelir: Na'd na'd (I fab na merch i fam na thad)

(About God's promises, encouragement to stick to him;
wish to get enjoyment of him;
and his help in straitened times.)
      Free, free
Are the promises of God without doubt,
Through the merit of the strength
        and worth of the blood,
  O breast of love, a precious purchase!
    His innocent life went, God knows,
  To pull us completely
          from under the wrath.

      Do not let, do not let
Either son or daughter, mother or father,
Nor houses nor lands of the whole country,
  One must let them all go;
    And thy life also if there be need,
  Before leaving thy faith,
          or denying thy friend.

     There is a plea
By thy entire flock and thy weak lambs,
To be led through faith every day,
  To the top of the hill, 
    To see the glory of Canaan land,
  Where their Father is and their
          faithful Friend.

      How long
May I live in a straitened world?
Which is a lake all full of grief,
  Without seeing the delightful,
      beautiful paradise;
    Of the great, good,
            complete restoration
  Of this building like the garden of Eden.

      There is not
For the man with grace who is
        under the cross,
But to pray up, and suffer the anguish,
  While going across the strong river;
    Christ shall be through the waters
            on thy behalf,
  He shall bring thee up
          to the Canaan of heaven.

      God, make
Thy dear promise to us good,
That thy name be the water firmly got,
  As a rock of refuge to us and a shelter;
    That the enemy will in no wise get,
  The venture the sword and
          strike me to the ditch.

      Grief, grief
To those who tested God abundantly,
Who hate the dear gentle kisses of his lip,
  Which are better than the wine
          from the best of grapes;
    O bring such from the thorn home,
  To the spot and the place
          where they are full.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~