Rhwng cymylau duon tywyll Gwelaf draw yr hyfryd wlad; Mae fy ffydd yn llefain allan – Dacw o'r diwedd dŷ fy Nhad: Digon, digon, Mi anghofia 'ngwae a'm poen. Nid oes yno gofio beiau, Dim ond llawn faddeuant rad; Poenau’r Groes, a grym y cariad, A rhinweddau maith y gwaed: Darfu tristwch; Daeth llawenydd yn ei le. Dyma'r tlawd a gyfoethogwyd, A'r carcharor wnaed yn rhydd, Ddoe oedd yn y pydew obry, Heddiw yma'n canu sydd; Nid oes gennyf Ddim ond diolch tra fwyf byw.William Williams 1717-91
Tonau [878747]: gwelir: Dechrau canu dechrau canmol (F')enaid egwan paid ag ofni ('Dyw d'elynion ...) Iesu Iesu 'rwyt ti'n ddigon Mae fy enaid am ehedeg Nid oes dim erioed a welwyd Nid oes yno gofio beiau O na ddôi'r amseroedd bellach Trwy y niwl a'r tew gymylau Tyred hyfryd foreu Wele'n dyfod ar y cwmwl (Mawr yw'r enw ...) |
Between dark, black clouds I see yonder the delightful land; My faith is crying out - There at last is my Father's house: Enough, enough, I will forget my woe and my pain. There is no remembering of faults there, Only full, free forgiveness; The pains of the Cross, and the force of love, And the vast merits of the blood: Sadness passed away; Rejoicing came in its place. Here is the poor one who was made rich, And the prisoner who was set free, Who yesterday was in the pit below, Who is here today singing; I do not have Anything but thanks while ever I live.tr. 2016 Richard B Gillion |
There for sin is no upbraiding, Nought but pardon full and free: Nought but his deep love, and merit Shall now unforgotten be; Fear hath vanished, Joy and rapture overflow.tr. Joseph Morris Favourite Welsh Hymns 1854 |