'Nol rhoddi'n Harglwydd hael Yn wael ei wedd, Rhyfeddod mwya' erioed, Yn ngwaelod bedd, Ond ar y trydydd dydd Yn rhydd yr aeth Efe: Palmantodd lwybr gwych I entrych ne'. Concwerodd angeu glas, A'i deyrnas drist; Fe'u rhoddwyd tan ein traed, Trwy waed ein Crist: Fe dynodd golyn hwn Yn gyfan gwn, o'r gwraidd; Pwy ofnai mewn un modd Rhag bloedd y blaidd? 'Nol gorphen ar ei waith I'r nef 'r aeth Ef, Lle mae ef yr awrhon Yn gwrando'n llef: Yn eiriol drosom draw, Ar fyr daw i'n rhyddhau; Mae'r amser ddydd a nos Yn agoshau.William Williams 1717-91
Tôn [6464.6664]: Ystrad Fflur gwelir: Rhyfedda hyd a lled |
After putting our generous Lord In a poor condition, The greatest wonder ever, In the bottom of the grave; But on the third day, Free went he, He paved the brilliant way To the zenith of heaven. He conquered utter death, And his sad realm; He was put under our feet, Through the blood of our Christ: He drew out his sting Completely I know, from the root; Who would be afraid in any way Of the shout of the wolf? After finishing his work To heaven he went, Where he is now Listening to our cry: Interceding for us yonder, Shortly he shall come to free us; The time day and night Is drawing near.tr. 2024 Richard B Gillion |
|