'R wy'n awr yn teimlo'r heddwch drud
Rwi 'naw'r yn teimlo'r heddwch drud
'Rwy'n awr yn teimlo'r heddwch drud

1,2,(3,4),5,6
(Hanes daioni Duw i'r credadyn - Rhan II)
'R wy'n awr yn teimlo'r heddwch drud,
Er gwaetha'r cnawd,
    y ddraig a'r bŷd;
  'R wy'n mynych brofi o'r hyfryd wledd,
  Sy' gan y saint tu draw i'r bedd.

'R wy'n profi mod i'n myn'd mewn hwyl,
Tu a'r man mae'r saint
    yn cadw gwyl;
  Mae ar fy enaid syched mawr,
  Am wledda gyd â hwy bob awr.

Mi wn yn awr, pwy bynag sy',
O'r bydol blant,
    a'r 'ffernol lu,
  Yn codi yn erbyn f'enaid gwan,
  Caf garior'r dydd, mae Duw o'm rhan.

'R wy'n gwybod beth yw byw trwy ffydd,
A rhodio yn nghariad Duw yn rhydd;
  Mi wn ca'i'm dwyn
      o ras i ras,
  Nes myn'd yn lân o'r byd i mae's.

'R wy'n credu 'nawr ca'i ras i fyw,
A gwneud pob peth er clod i'm Duw;
  A chwedi gorphen hyn o daith,
  Ca'i foli e'n nhragwyddoldeb maith.

Dewch greaduriaid o bob rhyw,
Trwy'r ddae'r a'r nef
    rhowch glod i'm Duw;
  Gan's mewn cyfyngder bu im' yn dda,
  Rhof iddo glod
      heb orphwys, gwna.
William Williams 1717-91

Tôn [MH 8888]:
Beza (<1869)
Horsley (William Horsley 1774-1858)
Lledrod (<1839)
Winchester (Bartholomäus Crasselius 1667-1724)

gwelir:
  Rhan I - Bendigaid fyth fo enw Duw ('R hwn wnaeth ...)

(The story of the goodness of God to the believer - Part 1)
I am now feeling the precious peace,
Despite the flesh,
    the dragon and the world;
  I insist on tasting the delightful feast,
  That the saints have beyond the grave.

I am experiencing that I am going with joy,
Toward the place where the saints
    are keeping festival;
  My soul has a great thirst,
  To feast with them every hour.

I know now, who ever is,
Of the worldly children,
    or the infernal host,
  Rising against my weak soul,
  I may carry the day, God is on my side.

I know what is living through faith,
And walking in the love of God freely;
  I know I shall get led
      from grace to grace,
  Until going clean out from the world.

I now believe I shall get grace to live,
And do everything for praise to my God;
  And having finished this journey,
  I may praise him in a vast eternity.

Come ye creatures of every kind,
Through the earth and heaven
    give ye praise to my God;
  Since in straits he was good to me,
  I shall give him praise
      without resting, I shall.
tr. 2021 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~