'Rwy'n llefain o'r anialwch

(Y Jerwsalem Nefol)
'Rwy'n llefain o'r anialwch
  Am byrth fy ninas wiw;
Jerwsalem fy nghartref,
  Jerwsalem fy Nuw!
Pa bryd y caiff fy llygaid,
  Pa bryd y caiff fy mhen
Ymagor ac ymorffwys
  Ym mro Caersalem wen?

Gad imi fara'r bywyd,
  Gad imi'r dyfroedd byw,
Ar ddeau law fy Mhrynwr
  Yn ninas wen fy Nuw:
'Rwy'n sefyll ac yn curo,
  O! agor Dithau'r ddôr,
Am Saboth ac am demel
  Jerwsalem fy Iôr.

'Rwy'n trigo ar y ddaear,
  Gan edrych ar y wawr,
A disgwyl am ddisgyniad
  Jerwsalem i lawr;
Er bod y nef yn gwgu
  Ar ael y cwmwl draw,
'Rwy'n credu ac yn canu,
  "Jerwsalem a ddaw."

Er dalled yw fy ngolwg,
  Er trymed yw fy nghlyw,
Mi welaf mewn addewid
  Jerwsalem fy Nuw:
Mi welaf demel Seion,
  Mi glywaf Jiwbili,
Mi welaf ddinas sanctaidd, -
  Jerwsalem yw hi.
Er bod y nef yn gwgu :: Wrth weld y nef yn gwenu
Jerwsalem yw hi :: Jerusalem yw ni
         - - - - -

'Rwy'n llefain o'r anialwch
  Am byrth y ddinas wiw;
Caersalem fry, fy nghartref,
  Caersalem lân fy Nuw!
Pa bryd y caiff fy llygaid,
  Pa bryd y caiff fy mhen
Ymagor ac ymorffwys
  Ym mro Caersalem wen?

Rho imi fara'r bywyd,
  Rho imi'r dyfroedd byw,
I'm cynnal nes im ddyfod
  I ddinas wen fy Nuw;
'Rwy'n sefyll ac yn curo,
  O agor dithau'r ddôr,
Gad imi byth breswylio
  Caersalem lân fy Iôr.

Er gwanned yw fy ngolwg,
  Er trymed yw fy nghlyw,
Mi welaf mewn addewid
  Gaersalem lân fy Nuw;
Mi welaf gaerau Seion,
  Mi glywaf Iwbili,
Mi welaf ddinas sanctaidd -
  Caersalem ydyw hi!
nes im ddyfod :: nes y delwyf

John Ceiriog Hughes (Ceiriog) 1832-87

Tonau [7676D]:
    Babel (alaw Gymreig)
    Ewing (A Ewing 1830-95)
    Jabez (alaw Gymreig)
    Mannheim (Hans L Hassler 1564-1612)
    Rhos-y-Deri (W J Jones, Betws, Rhydaman.)

(The Heavenly Jerusalem)
I am crying out from the desert
  For the doors of my worthy city;
Jerusalem my home,
  The Jerusalem of my God!
When will my eyes get,
  when will my head get
To open and to rest
  In the vale of bright Jerusalem?

Let me have the bread of life,
  Let me have the living waters,
At my Redeemer's right hand
  In the bright city of my God:
I am standing and knocking,
  O open Thou the door,
For a Sabbath and for a temple
  The Jerusalem of my Lord.

I am dwelling on the earth,
  While looking at the dawn,
And waiting for the descent
  Of Jerusalem down;
Although heaven is frowning
  On the brow of yonder cloud,
I am believing and singing,
  "The coming Jerusalem."

Though so blind is my sight,
  Though so heavy is my hearing,
I can see in a promise
  The Jerusalem of my God:
I can see the temple of Zion,
  I can hear Jubilee,
I can see a holy city, -
  Jerusalem it is.
Although heaven is frowning :: While seeing heaven smiling
Jerusalem it is :: Jerusalem are we
              - - - - -

I am crying out from the desert
  For the portals of the worthy city;
Jerusalem above, my home,
  The holy Jerusalem of my God!
When may my eyes get,
  When may my head get
To open and to rest
  In the vale of bright Jerusalem?

Give me the bread of life,
  Give me the living waters,
To support me until I come
  To the bright city of my God;
I am standing and knocking,
  O open thou the door,
Let me forever reside in
  Holy Jerusalem my Lord!

Although so weak is my sight,
  Although so heavy is my hearing,
I see in a promise
  The holy Jerusalem of my God;
I see the fortifications of Zion,
  I hear a Jubilee,
I see a holy city -
  Jerusalem it is!
::

tr. 2010,18 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~