'R wy'n caru enw'r hyfryd wlad, Y wlad tu draw i'r bedd; Lle mae digymysg pur fwynhad, Lle mae tragwyddol hedd: Y nefol wlad, y nefol wlad, Lle mae tragwyddol bur fwynhad. 'R wy'n caru enw'r hyfryd wlad, Lle mae anwyliaid Duw, O gylch gorseddfainc wen fy Nhad Yn deulu mawr yn byw: O! hyfryd wlad, O! hyfryd wlad, Cartrefle'r saint yn nhŷ fy Nhad. 'R wy'n caru enw'r hyfryd wlad, Lle mae fy Iesu'n byw; Lle mae fy Nuw, lle mae fy Nhad, Gwlad ogonedduw yw: O! nefol wlad, fy nghartref yw, Lle mae fy Iesu mawr a'm Duw. 'R wy'n canu am yr hyfyd wlad, Wrth fynd yn nerth fy Nuw, Yng nghwmni'r pererinion mad, I'r nefol wlad i fyw: Yr hyfryd wlad, fy nghartref yw, 'R wy'n canu wrth fynd yno i fyw.Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) 1844-1905
Tonau [868688]: |
I love the name of the lovely land, The land beyond the grave; Where there is unmixed, pure enjoyment, Where there is eternal peace: The heavenly land, the heavenly land, Where there is eternal, pure enjoyment. I love the name of the lovely land, Where the dear ones of God are, Around my Father's white throne Living as a great family: O lovely land! O lovely land! The saints' dwelling place in my Father's house. I love the name of the lovely land, Where my Jesus is living; Where my God is, where my Father is, A glorious land it is: Oh, heavenly land, my home it is, Where are my great Jesus and my God. I am singing about the lovely land, While going in the strength of my God, In the company of the worthy pilgrims, To the heavenly land to live: The lovely land, my home it is, I am singing while going there to live.tr. 2015 Richard B Gillion |
|