Rho im/in gofio angau Iesu

(Cymundeb)
Rho in gofio angau Iesu
  Gyda diolchiadau llawn,
A chael derbyn o rinweddau
  Maith ei wir, achubol Iawn;
Bwyta'i gnawd drwy ffydd ddiffuant,
  Yfed gwaed ei galon friw,
Byw a marw yn ei heddwch:
  O'r fath wir ddedwyddwch yw.

Addfwyn Iesu, dangos yma
  Ar dy fwrdd d'ogoniant mawr,
Megis gynt wrth dorri bara
  Ymddatguddia inni nawr;
Bydd yn wledd ysbrydol inni
  Er cyfnerthu'n henaid gwan,
Gad in brofi o'r grawnsypiau
  Nes cael gwledd y
      nef i'n rhan.

             - - - - -

Rho im gofio angau Iesu
  Gyda diolchiadau llawn,
A chael derbyn o rinweddau
  Maithion ei achubol Iawn;
Bwyta'i gnawd drwy ffydd ysbrydol,
  Yfed gwaed ei galon friw,
Byw a marw yn ei heddwch -
  O'r fath wir ddedwyddwch yw!

Addfwyn Iesu, O! datguddia
  Ar dy fwrdd d'ogoniant mawr,
Megis gynt "wrth dorri bara,"
  O! amlyga d'Hun yn awr;
Bydd yn wledd ysbrydol inni
  Er cyfnerthu'n henaid gwan;
Gad in brofi o'r grawnsypiau
  Nes dod gwledd y
      nef i'n rhan.
Robert Isaac Jones (Alltud Eifion) 1813-1905

Tonau [8787D]:]:
Alexander (John Roberts 1806-79)
Edinburgh (F A G Ouseley 1825-89)

(Communion)
Grant us to remember the death of Jesus
  With full thanks,
And to get to receive from the vast
  Merits of his true, saving, Atonement;
To eat his flesh through sincere faith,
  To drink the blood of his bruised heart,
To live and die in his peace:
  Of the kind of true happiness it is.

Gentle Jesus, show here
  On thy table thy great glory,
As formerly while breaking bread
  Reveal thyself to us now;
It will be to us as a spiritual feast
  For the confirming of our weak soul,
Let us taste the grape-clusters
  Until getting the feast of
      heaven as our portion.

                - - - - -

Grant me to remember the death of Jesus
  With full thanks,
And to get to receive from the vast
  Merits of his saving Atonement;
To eat his flesh through spiritual faith,
  To drink the blood of his bruised heart,
To live and die in his peace -
  Of the kind of true happiness it is.

Gentle Jesus, O reveal
  On thy table thy great glory!
As formerly "in the breaking of bread,"
  O make Thyself evident now!
Be a spiritual feast to us
  In order to confirm our weak soul;
Let us taste the grape-clusters
  Until the feast of heaven
      becomes our portion.
tr. 2010 Richard B Gillion.

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~