Rhowch fawl i'n Harglwydd glân Mewn newydd gân hyd nef; Gorchfygodd ei elynion llym A grym deheulaw gref. Hysbysu i ni a wnaeth Ei iachawdwriaeth fawr: Dadguddiodd ei gyfiawnder pur I euog deulu'r llawr. Fe gofia'i ammod hedd Ei hen drugaredd wiw; Caiff holl genedloedd daear gaeth Wel'd iachawdwriaeth Duw. Cydgenwch fawl cytûn Ar delyn felus dant, A moeswch salm ar lafar lef I'w ganmol Ef - y Sant. Cyduned tònau'r môr Eu mawl i'n Ior o hyd, A rhoed y ddaear fawr a'i phlant Ogoniant iddo i gyd. Llifeiriaint oddi draw Ddyrchafo'u dwylaw'n hy', Adseinied clod yn uchel floedd O'r holl fynyddoedd fry, - O flaen Jehofa sy' Yn d'od i farnu'r byd; Efe a esyd gyfiawn raith Yn ol eu gwaith i gyd.William Rees (Gwilym Hiraethog) 1802-83
Tonau [MB 6686]: |
Render praise to our holy Lord In a new song unto heaven He vanquished his keen enemies With the force of his strong right hand. He made known to us His great salvation: He revealed his pure righteousness To the guilty family of earth. He will remember his term of peace His old worthy mercy; All the nations of the earth may get To see God's salvation. Let us render praise together in unison On a harp of sweet chord, And offer a psalm with a vocal cry To commend him - the Saint. Let the waves of the sea join in unison Their praise to our Master continually, And let the great earth and its children all Give glory to him. Torrents from afar Shall lift their hands boldly, Let praise resound in a loud shout From all the mountains above, - Before Jehovah who Is coming to judge the world; He will issue a wise decree After all their work.tr. 2009 Richard B Gillion |
|