Rho'wn hyder ein gobaith

(Iachawdwriaeth trwy Grist)
Rho'wn hyder ein gobaith
    mewn lanwaith i lawr,
Ar gariad y Drindod
    mewn undod yn awr;
  Ni chollir un enaid
      o'i ddeiliaid, medd ef,
  Cânt orphwys mewn urddas
      yn ninas y nef.

Crist ydyw blaguryn
    a gwreiddyn pob gras,
Fe lwyddodd yn erbyn
    y gelyn a'i gas;
  Un aberth anfeidrol,
      digonol a gaed,
  I enaid gresynus,
      on'd gweddus yw'r gwaed?

Rhyfeddwn ei boenau,
    a'i loesau, hael Ior!
Creawdwr y dyfnder
    a meithder y môr;
  Y ddaear a'r nefoedd,
      a'u lluoedd yn llon,
  Ei ben a goronwyd
      pan friwiwyd ei fron.

Yr Iesu grasusal
    yn farwol a fu,
Fe dalodd yn ffyddlon
    ddyledion ei lu;
  Fe ddyg ein camweddau
      a'n beiau drwy boen,
  Fe gafwyd tangnefedd
      trwy rinwedd yr oen.

Fe yfodd o'r afon
    oen tirion y Tad,
A'i ben a ddyrchafodd
    pan brofodd ein brad;
  Fe ddygodd in' fywyd
      tra hyfryd trwy hedd,
  Gorchfygodd nerth angau
      un boreu a'r bedd.

Y cadarn gyfryngwr,
    eiriolwr hael yw,
Sy'n sefyll yn ffyddlon
    rhwng dynion a Duw,
  Trwy rinwedd ei aberth,
      yn brydferth eu braint,
  Daeth heddwch tragwyddol,
     cysurol i'r saint.

Trwy'i allu tragwyddol
    anfeidrol efe,
Daw'r saint i gyrhaeddyd
    newyddfyd y ne';
  O'r dyrys anialwch
      i heddwch cyn hir,
  Fe ddwg yr oen tirion
      ei weision yn wir.
Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) 1766-1850

[Mesur: 11.11.11.11]

(Salvation through Christ)
Let us put the confidence of our hope
    in clean work down,
On the love of the Trinity
    in unity now;
  Not one soul is to be lost
      of his tenants, he says,
  They will get to rest in dignity
      in the city of heaven.

Christ is the shoot
    and root of every grace,
He succeeded against
    the enemy and his hatred;
  One infinite sacrifice,
      sufficient was had,
  For a miserable soul,
      is not the blood worthy?

Let us wonder at his pains,
  and his agonies, generous Lord!
The Creator of the depth
    and breadth of the sea;
  The earth and the heavens,
      and their hosts cheerfully,
  His head was crowned
      when his breast was wounded.

The gracious Jesus
    who was mortal,
He paid faithfully
    the debts of his host;
  He bore our transgressions
      and our faults through pain,
  Peace was got
      through the merit of the lamb.

The gentle lamb of the Father
    drank from the river,
And his head he raised
    when he experienced our treachery;
  He brought us life
      so delightful through peace,
  He overcame the strength of death
      one morning, and the grave.

The firm mediator,
    a generous intercessor he is,
Who is standing faithfully
    between man and God,
  Through the virtue of his sacrifice,
      beautiful their privilege,
  Eternal peace came,
      comforting to the saints.

Through his eternal,
    infinite power,
The saints shall come to reach
    the new world of heaven;
  From the troublesome desert
      to peace before long,
  The gentle lamb will lead
      his servants truly.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~