'Rhwn sy'n gyrru'r mellt i hedeg Ac yn rhodio brigau'r don, Ac y mesur oll ddyfnderau Temptasiyau'r ddaear hon; 'Rwyt Ti'n drech na'r gwynt a'r 'storom Hwylia eiddil llesg yn mlaen, Gyda'r awel deneu effro, O Galfaria fel o'r blaen. Na fydd, Arglwydd, fel pererin, Fai'n yndeithio yn y tir, Yn lletya ddim ond noswaith, A myn'd ymaith amser hir: O! na foed i Ti ein gadael; Ond rho deimlo'th ddwyfol rym: Ac mewn gallu anorchfygol Noetha eto'th gleddyf llym. Hen agorwr beddau llygredd Codwr meirw tyrd ymlaen Chwyth yn awr yr utgorn arian Concra drwy'r Efengyl lān; Mae thyw nerthoedd yn dy lanw, Mae dy Ysbryd fel y tān; Rhwyga'r dŵr, a llosg y rhwystrau Fel y fflamau'n mynd ymlaen.1: Christmas Evans 1766-1838 2: C Evans neu Jane Hughes fl.c.1840-1880 3: J Hughes neu David Saunders 1769-1840
Tonau [8787D]: |
He who propels the lightening to fly And walks the tops of the wave, And the measure of all the depths Of the temptations of this earth; Thou dost prevail against the wind and the storm Drive a frail, feeble one forward; With the sharp, alert breeze From Calvary as formerly. Do not be, Lord, like a pilgrim, Who is travelling in the land, Lodging only for an evening, And going away for a long time: O that thou wouldst not leave us; But grant to feel thy divine force: And in insuperable might Bare again thy sharp sword. Old opener of graves of corruption, Raiser of the dead come forth, Blow now the silver trumpet, Conquer through the holy Gospel; There are some strengths filling thee, Thy Spirit is like the fire; Rend the water, and burn the obstacles Like the flames going forward.tr. 2010 Richard B Gillion |
|