Rhyfeddod fawr fy mod yn fyw
Rhyfeddod mawr fy mod yn fyw

Rhyfeddod mawr fy mod yn fyw,
  Y mae fy Nuw yn dirion;
Yr angau glas, i'r tŷ o glai,
  A fedodd rai cyfoedion!

[Rhyfeddod fawr fy mod yn fyw,
   O waith bod Duw yn dirion;
 Yr angau glas, i'r tŷ o glai
   A fedodd rai cyfoedion!]

Mae rhai ieuangach na myfi
  Yn tewi yn y tywod;
Rhai oeddynt deg o bryd, sy'n awr
  Yn pydru'n llawr y beddrod.

Myfi'n cael estyn dyddiau f'oes,
  Heb gyfyng loes na gwasgfa:
Moliannaf rad ddaioni Duw
  A'm cadwai'n fyw hyd yma.

Gadawaf bob difyrwch gwael,
  Gan ddeisyf cael bendithion
A lif o fryniau'r nef i lawr:
  O! ryfedd werthfawr afon.
Corph y Gaingc 1810

Tôn [MS 8787]: Capel Cynon (Hugh Jones 1749-1825)

A great wonder that I am alive,
  My God is gentle;
Utter death, to the house of clay,
  Has possessed some contemporaries!

[A great wonder that I am alive,
   How fortunate that God is tender!
 Utter death, to the house of clay,
   Has possessed some contemporaries!]

Some younger than I are
  Silent in the sand;
Some who were fair of countenance, are now
  Decomposing in the bottom of the tomb.

Whereas I get to extend the days of my age,
  Without confining anguish or restriction:
I will praise the free goodness of God
  Which has kept me alive until now.

I will keep every base interest,
  While petitioning to get the blessings
Which streams down from the hills:
  O wonderful, precious river.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~