Rhyfeddod oedd y cariad

(Cariad Duw)
Rhyfeddol oedd y cariad
  At wael golledig ddyn;
Rhy fach o le i'w gynnwys
  Oedd mynwes Duw ei hun:
Fe redodd yn llifeiriol
  O'r nefoedd wen i lawr;
I achub myrdd myrddiynau
  O bechaduriaid mawr.

Un olwg ar yr Iesu,
  Ar fynydd Calfari,
A dawdd y galed galon,
  Anfoddlon sy' ynof fi;
Dystawa'r holl daranau,
  A'r bygythiadau gaed,
Fe gwymp euogwrydd pechod,
  I ganol môr o waed.
David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822

Tôn [7676D]: Rhyddid (alaw Gymreig)

gwelir: Anfeidrol fyth anfeidrol

(The Love of God)
Wonderful was the love
  Towards poor, lost man;
Too little of space to contain it
  Was the breast of God himself:
It ran streaming
  From the blessed heavens down;
To save a myriad of myriads
  Of great sinners.

One look upon Jesus
  On the mount of Calvary,
Will melt the hard, unwilling
  Heart which is in me;
All the thunderings will fall quiet,
  And the threats there are;
The guilt of sin shall fall
  Into the middle of a sea of blood.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~