Rhyfeddodau sydd o'n hamgylch

(Tragywyddoldeb Duw)
Rhyfeddodau sydd o'n hamgylch,
  Cywrain, cyson ydyw'r oll;
Y mae trefn trwy holl natur,
  Yn ei rhanau nid oes coll;
Mae y ddaear a'i chyflawnder
  Yn cyhoeddi'n uchel iawn,
Fod Crëawdwr yn bodoli
  O ddoethineb sydd yn llawn.

Hollalluog yw ein Lluniwr,
  Perffaith mewn gwybodaeth yw;
Digyfnewid yn ei Hanfod,
  Anchwiliadwy ydyw Duw;
Rhyfedd iawn yw ei weithredoedd,
  Mil rhyfeddach ef ei hun;
I'w ryfeddu, ac i'w barchu
  'N gynes delo pob rhyw ddyn.
E Griffiths
Casgliad E Griffiths 1855

[Mesur: 8787D]

(God's Eternal Nature)
Wonders are around us,
  Intricate, constant is the whole;
The arrangement is throughout all nature,
  In its parts there is no loss;
The earth and its fulness is
  Publishing very loudly,
That a Creator is existing
  Who is full of wisdom.

Almighty is our Designer,
  Perfect in knowledge he is;
Unchanging in his Essence,
  Unsearchable is God;
Very wonderful are his actions,
  A thousand times more wonderful himself;
To wonder at him, and to revere him
  Warmly let every kind of man come.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~