Rhyfeddol ac aneirif yw, Dy drugareddau Di, O Dduw! Fel tywod ŷnt o ran eu rhif, O ran eu lawnder megys llif. Dy hael ddaioni dirfawr Di, O Dduw y nef, a ddaw i ni: Rhown ninnau glod i'th enw glân, A'th ddoniau cu a fydd ein cân. Ym mhob rhyw gyflwr, claf neu iach, Tra byddom byw dros amser bach, Gwas'naethwn Di, ein nefol Dad, Gan iawn ddefnyddio'th roddion rhad. Deffrown yn nhragwyddoldeb draw Ar foreu llon, - mae'r wawr ger llaw! - I wel'd dy wyneb, nefol Ion, A'th foli Di ar felus dôn, [Gad in' yn nhragwyddoldeb draw, Y bore llon, (mae'r wawr gerllaw!) Gael gwel'd dy wyneb, nefol Ion, A'th foli byth ar beraid dôn.] Dyrchafwn trwy'r uchelder maith Dy foliant fyth mewn nefol iaith, Gan seinio, gyda'r seintiau fry, Ar dannau aur, i'th enw cu.
Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844
Tonau [MH 8888]: gwelir: Dy hael ddaioni dirfawr Di |
Amazing and innumerable are, Thy mercies, O God! Like sand they are as to their number, As for their fullness, like the flood. Thy immense, generous goodness, O God of heaven, will come to us; Let us render praise to thy holy name, And thy dear gifts shall be our song. In every kind of condition, ill or well, While ever we are living for a little while, We shall serve Thee, our heavenly Father, While rightly using thy gracious gifts. We shall awake in yonder eternity On a cheerful morning, - the dawn is at hand! - To see thy face, heavenly Master, And praise thee forever with a sweet tune. [Let us in eternity yonder, On the cheerful morning, (the dawn is at hand!) Get to see thy face, heavenly Master, And praise thee forever with a sweet tune.] Let us raise throughout the vast height Thy praise forever in a heavenly language, While sounding, with the saints above, On strings of gold, to thy dear name. tr. 2011,19 Richard B Gillion |
|