Rwy'n caru gān blygeiniol

(Y Gān Blygeiniol)
Rwy'n caru gān blygeiniol
  A ganodd engyl Duw,
Pan ddaeth y Brenin Dwyfol
  I lawr o'r nef i fyw:
I'm hachub o fy mhechod
  Y daeth o'r nef i lawr;
A chanaf yn ddiddarfod
  Am werth Ei gariad mawr.

    Rwy'n caru gān blygeiniol
      A ganodd engyl Duw,
    Pan ddaeth y Brenin Dwyfol
      I lawr o'r nef i fyw.

Rwy'n hoffi'r addfwyn Iesu
  Fu'n blentyn fel fy hun,
Er dangos pob rhinweddau
  I blant y llawr bob un:
Ac os ymdrechaf ddilyn
  Ei lwybrau ar y llawr,
Caf foli yn ddiddarfod
  Am werth Ei gariad mawr.

Mi gana'n felus iddo,
  Er heb Ei weled Ef,
Can's gwn Ei fod yn gwrando
  Ei blentyn yn y nef:
Mae gennyf addewidion
  Y gall un fel myfi
Gael rhan ym mawl angylion
  Y nefoedd, er Ei fri.
Thomas Tudno Jones (Tudno) 1844-95

Tōn [7676D+7676]:
    Y Gān Blygeiniol (J T Rees 1857-1949)

(The Early Morning Song)
I love the early morning song
  Which the angels of God sang
When the Divine King came
  Down from heaven to live:
To save me from my sin
  He came down from heaven;
And I will sing unceasingly
  About the worth of hi great love.

    I love the early morning song
      Which the angels of God sang
    When the Divine King came
      Down from heaven to live.

I am fond of gentle Jesus
  Who was a child like myself,
In order to show all virtues
  To the children of earth every one.
And if I strive to follow
  His paths on earth,
I will get to praise unceasingly
  About the worth of hi great love.

I will sing sweetly to him,
  Although not seeing Him,
Since I know He is listening to
  His children in heaven:
I have promises
  One like me may
Get a part in the praise of the angels
  In heaven, for His renown.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~