'Rwy(f) yn terfynu 'nghred

'Rwy' yn terfynu 'nghred
  'Nol pwyso oll ynghyd,
Mai cyfnewidiol ydyw dyn,
  Ond Duw sy'r un o hyd:
Ar ei ffyddlondeb ef,
  Sy'n noddfa gref i'r gwan,
Mi greda' doi mhen gronyn bach,
  O'r tonnau'n iach i'r lann.

Cyfiawnder marwol glwy,
  A haeddiant dwyfol loes,
Y pris, y gwerth,
    a'r aberth drud,
  A dalwyd ar y groes;
A gliria meiau'n llwyr,
  A'm gylch yn hyfryd lân,
Ac nid oes arall dan y nef,
  A'm nertha i fyn'd y'mlaen.

[Wel deuwch tua'r wlad,
   Y ffordd a gaed yn rhydd;
 Ar ol rhyw noswaith dywyll gaeth,
   'N awr gwawrio wnaeth y dydd,
 Oddi yma i Peru,
   Mae efenfgyl Duw yn rhoi bloedd,
 Cyhoeddi i'r Negroes dua' eu lliw,
   Drugaredd Duw ar g'oedd.]

Mae pen ein taith gerllaw,
  Ar fyrder gwawria'r dydd,
I ddiangc o'u cadwynau caeth,
  A chanu'n berffaith rydd;
Y'nghanol tyrfa faith;
  Pob llwyth a iaith a dawn,
Un sabboth heb na haul na lloer,
  Na bore na phrydnawn.

    [Mae pen ein taith ger llaw,
       Ar fyrder gwawria'r dydd,
     O fy nghadwynau
         caeth bob rhyw,
       Fe'm tŷn fy Nuw fi'n rhydd:
     Tros yr Iorddonen lâs,
       Caf landio maes o law;
     I fwyta ffrwythau nefol pur,
       Yr hyfryd dir
           sydd draw.]
 
Prysurwn yn y blaen,
  Yn nes nes at y nod:
Na lwfrhawn,
    mawr yw ein braint,
  Ni chollodd saint erioed:
Pob peth sy'n galw ar frys,
  Am fyn'd tua llys ein Tâd,
Lle cawn ni fwytta yn y man,
  Danteithion Canaan wlad.
 
    [Cyrhaeddwn yn y blaen,
       'Nawr nes-nes at y nôd,
     Na ildiwn ddim
         mawr yw ein braint,
       Ni chollodd saint erioed:
     Pob peth sy'n galw am frys,
       Fyn'd tua llŷs ein Tâd,
     Nyni cawn fwyta yn y man,
       Ddanteithion
           Canaan wlad.]
 
            - - - - -

'Rwyf yn terfynu 'nghred,
  'Nôl pwyso oll ynghyd,
Mai cyfnewidiol ydyw dyn,
  Ond Duw sy'r un o hyd;
Ar ei ffyddlondeb Ef,
  Sy'n noddfa gref i'r gwan,
Mi gredaf dof,
    'mhen gronyn bach,
  O'r tonnau'n iach i'r lan.

'Run nerth sydd gan fy Nuw,
  A'r un yw geiriau nef;
'Run grâs, a'r
    un ffyddlondeb sy'
  'N cartrefu ynddo Ef:
Fy ngwendid o bob math,
  A'm llygrediagaeth cry',
Ni allant ddiffodd, er mo'r gâs,
  Hyd fyth, mo'r grâs sy' fry.

Cyflawnir gair fy Nuw,
  A doed hi fel y del;
Can's holl amcanion nefoedd fry,
  Bob silaf, sy' tan sêl:
Ac ar ei air a'i nerth,
  A dwyfol werth ei waed,
Mi af trwy bob gelynion hŷ
  I mewn i dŷ fy Nhâd.

            - - - - -

'Rwyf yn terfynu 'nghred,
  'Nol pwyso oll yn nghyd;
Mai cyfnewidiol ydyw dyn,
  Ond Duw sy'r un o hyd:
Ar ei ffyddlondeb ef,
  Sy'n noddfa gref i'r gwàn,
Mi greda' do'i mhen gronyn bach
  O'r tònau'n iach i'r làn.

'Rwyf wedi bwrw'r draul
  I fyn'd yn mlaen o hyd,
Nes gwelwy'r dydd yn gwawrio draw,
  Mi wn y daw ryw bryd:
Er gwaetha'm llygredd cas,
  Mi ddianga' maes o law,
I gol fy Nuw a'm priod cu,
  Sy'n eiriol droswyf draw.
William Williams 1717-91

Tôn [6686D MBD]: Gobaith (Thomas Price 1857-1925)

gwelir:
  Cyfiawnder marwol glwy(f)
  Pererin wyf ar daith
  'Rwy'n ofni'm nerth yn ddim
  Mi welaf fyrdd dan sêl
  'Rwyf wedi bwrw'r draul
  Wel f'enaid dos yn mlaen

I am concluding my belief
  After weighing all together,
That changeable is man,
  But but is the same always:
On his faithfulness,
  Which is a strong refuge for the weak,
I belief I shall come
    after a little while,
  From the waves safe to the shore.

The righteousness of a mortal wound
  And the merit of divine anguish,
The price, the worth,
    and the costly sacrifice,
  Which was paid on the cross;
Which clears all my faults,
  And washes me delightfully clean,
And there is no other under heaven,
  Who strengthens me to go on.

[So come ye towards the land,
   The way is freely available;
 After some dark night of captivity
   Now the day has dawned,
 From here to Peru,
   The gospel of God is giving a shout,
 Announcing to Negroes of darkest colour,
   The mercy of God publicly.]

The end of our journey is at hand,
  Hurriedly dawns the day,
To escape from the chains of captivity,
  And sing perfectly freely;
Amongst the vast throng;
  Every tribe and language and ability,
One sabbath with neither sun nor moon,
  Nor morning nor evening.

    [The end of our journey is at hand,
       Hurriedly dawns the day,
     From my chains of
         every kind of captivity,
       My God shall pull me free:
     Across the blue-green Jordan,
       I shall get to land soon;
     To eat pure heavenly fruits,
       Of the delightful land
           which is yonder.]

Let us hurry onwards,
  Until comeing to the goal:
Let us not be cowardly,
    great is our privilege,
  Saints have never lost:
Everything is calling urgently,
  To go towards the court of our Father,
Where we may get to eat soon,
  The delicacies of the land of Canaan.

    [Let us reach forwards,
       Now right upto the goal,
     Let us not yield at all,
         great is our privilege,
       Saints have never lost:
     Everything is calling us urgently,
       To go towards our Father's court,
     We shall get to eat soon,
       Of the delicacies of
           the land of Canaan.]

                  - - - - -

I am concluding my belief,
  After weighing everything together,
That changeable is man,
  But that God is still the same,
On his faithfulness,
  Which is a strong refuge for the weak,
I believe I shall come,
      after a little while,
  From the waves safely to the shore.

The same strength which my God has,
  And the the same are heaven's words;
The same grace, and the
    same faithfulness is
  Dwelling in Him:
My weakness of every kind,
  And my strong corruption,
Cannot extinguish, however hateful,
  Ever, the grace which is above.

To be fulfilled is my God's word,
  A let is come what will;
Since all the purposes of heaven above,
  Every syllable, is under a seal:
An on his word and his strength,
  And the divine worth of his blood,
I shall go through every arrogant enemy
  Into my Father's house.

                - - - - -

I am concluding my belief
  After weighing all together,
That changeable is man,
  But but is the same always:
On his faithfulness,
  Which is a strong refuge for the weak,
I believe I shall come
    after a little while,
  From the waves safe to the shore.

I have counted the cost
  To go forwards still,
Until I see the day dawning over there,
  I that that it will come some day:
Despite my hated corruption,
  I shall escape soon,
To the bosom of my God and my dear spouse,
  Who is interceding for me over there.
tr. 2014 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~