'Rwyf fel y gwyliwr ar y mur, Yn dysgwyl, bob yr awr, Am wel'd yn gwawrio Jubil fwyn Fy muddygoliaeth fawr. - - - - - 'Rwy' fel y gwyliwr ar y mur, Yn dysgwyl gwel'd y wawr; Dydd i gyhoeddi Jubil fwyn, Fy ngwaredigaeth fawr. Myfi ddysgwyliais amser maith, Gyflawni geiriau'r nef; O'r diwedd gwawriodd dedwydd ddydd, Ei bur addewid Ef. Edrychaf 'n awr i'r eilfyd maith, Mewn rhyw dawelwch llawn; O ben Calfaria seiniaf gān, O foreu hyd brydnawn. Byth gorfoledda, f'enaid mwy, Dy Briod yw dy Dduw; Mwy ydyw rhinwedd marwol glwy', Na phechod o bob rhyw.William Williams 1717-91
Tonau [MC 8686]: gwelir: Agorwyd pyrth y nefoedd wiw Iesu difyrrwch f'enaid drud Fy enaid gorfoledda mwy O dyred Ysbryd sanctaidd pur |
I am like the watchman on the wall, Waiting, every hour, To see dawning the dear Jubilee Of my great victory. - - - - - I am like the watchman on the wall, Waiting to see the dawn; A day to publish the dear Jubilee, Of my great deliverance. I have awaited for a long time, The fulfilment of heaven's words; At last has dawned the happy day, Of His pure promise. I will look now to the vast second world, In some full quietness; From the summit of Calvary I will sound a song, From morning until afternoon. Forever rejoice, my soul henceforth, Thy Spouse is thy God; Greater is the merit of his mortal wound, Than sin of every kind.tr. 2015 Richard B Gillion |
|