'Rwyf finau'n dod yn llwythog flin, At Iesu'r Meddyg rhad; Heb neges genyf yn y byd, Ond ceisio esmwythâd. Cymeryd wnaf y baich a'r iau, Heb omedd cario'r un; Wrth gofio'r baich a'r pwysau mawr A gariodd ef ei hun. Yr wyf yn ofni a thristâu, Drwy oriau maith fy oes; 'Does dim a wna i'm hofnau ffoi, Ond edrych ar y groes. - - - - - 1,2,(3). 'Rwyf finau'n dod yn llwythog flin, At Iesu'r Meddyg rhâd; Heb neges gennyf yn y byd, Ond mofyn esmwythâd. Mi gymra'r baich, mi gymra'r iau, Heb wrthod cario'r un; Wrth gofio'r baich a'r dirfawr bwys A gariodd Ef Ei hun. Yr wyf yn ofni a thristâu, Drwy oriau maith fy oes; 'Does dim a wna i'm hofnau ffoi, Ond edrych ar y groes.T Williams Casgliad o dros Ddwy Fil o Hymnau (Samuel Roberts) 1841
Tonau [MC 8686]: gwelir: Rhyw ofni 'rwyf a rhyw dristâu |
I am coming burdened, exhausted, To Jesus the gracious Physician; Without any mission in the world, But to seek ease. Take I shall the load and the yoke, Without refusal to carry either; While remembering the load and the great weight Which he himself carried. I am in fear and sadnss, Throughout the long hours of my life; There is nothing which makes my fears flee, Except looking on the cross. - - - - - I am coming burdened, exhausted, To Jesus the gracious Physician, Without any mission in the world, But to ask for ease. I shall take the load, I shall take the yoke, Without refusing to carry either; While remembering the load and the enormous weight Which he Himself carried. Somewhat fearing I am and somewhat saddening, Throughout the long hours of my life; There is nothing which makes my fears flee, Except looking on the cross.tr. 2015,16 Richard B Gillion |
|