'Rwyf finau'n un o'r lliaws mawr Sy'n gorwedd wrth y llyn; Gan ddysgwyl am i'r angel da Gynhyrfu'r dyfroedd hyn. A raid im' etto farw'n lân, 'Nol aros yma cy'd? Mae rhywrai ereill yma'n cael O'm blaen iachâd o hyd. Fi at y llyn ddaeth gynta' mhell, Hwy'n gyntaf ga'dd iachâd; Pa bryd daw f'amser innau'r tlawd I dderbyn llwyr wellhad? Mi 'rosaf etto, doed a ddel, Pwy ŵyr, 'mhen gronyn bach, Na ddaw y Meddyg da i'r lle I'm gwneuthur innau'n iach?Thomas William(s) 1761-1824, Bethesda. (arallwyd / altered Casgliad Joseph Harris 1845)
Tonau [MC 8686]: |
I am one of the great multitude Who is lying by the pool; Waiting for the good angel To disturb these waters. Must I yet die completely, After waiting here so long? Somehow others here are getting Healing before me always. I to the pool came first by far, They first got healing; When will the time of poor me come To receive complete improvement? I will wait yet, come what may, Who knows, after a little while, That the good Physician will come to the place To make me whole?tr. 2016 Richard B Gillion |
I also like so many moreHowell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953 Sweet Singers of Wales 1889
|