'Rwyf yn Dy garu, f'anwyl Dduw, Yn well na phleser o bob rhyw, 'R wyf yn Dy garu, dyna i gyd Fy holl ddiddanwch yn y byd. Nis gallaf dd'wedyd yn mha fôdd Yr wyt Ti'n ddigon wrth fy môdd: Dadguddir y dirgelwch pur Yn hollol yn y nefol dir. Pan ddysgwyf 'nabod iaith y wlad A phur ganiadau tŷ fy Nhâd, Dechreuaf gân am farwol glwy', Na chlywir diwedd arni mwy. Can's mae Dy harddwch, Iesu mawr, Yn fwy na harddwch nef a llawr; A harddach, harddach fyth o hyd Yw hyfryd wedd Dy wyneb-pryd. Yn mhen rhyw oesoedd rif y gwlith, Fe'th wêl y saint yn harddwch byth: A blâs o newydd iddynt hwy Fydd canu am Dy farwol glwy.
Tonau [MH 8888]: |
I am loving Thee, my beloved God, Better than pleasure of every kind, I am loving Thee, that is all My whole interest in the world. I cannot tell by any means Thou are sufficient to satisfy me: To be revealed is the pure secret Completely in the heavenly land. When I learn to recognise the language of the land And the pure songs of my Father's house, I will begin a song about a mortal wound, An end t which is never to be heard. Since Thy beauty, great Jesus, is Greater than the beauty of heaven and earth; And more beautiful, more beautiful forever always Is the delightful countenance of Thy face. At the end of some ages numerous as the dew, Thou wilt see the saints in beauty forever: And a taste anew to them Will be to sing about Thy mortal wound. tr. 2016 Richard B Gillion |
|