'Rydwyf heb fy nhòri lawr

(Amynedd Duw)
'Rydwyf heb fy nhòri lawr
  Gan ddyrnodiau brenin braw,
F'enaid heb ei ddamnio sydd -
  Molaf Dduw am hyn heb daw;
Mawr amynedd f'Arglwydd cu
Wenodd ar fath bryf â mi!

Nid oes euog gwaeth nâ mi
  Dan yr wybren fawr yn bod,
Etto ces arbediad rhad -
  Teilwng iawn yw Duw o'r clod;
Trwy amynedd f'Arglwydd doeth
Cadwyd fi o uffern boeth.
Casgliad Joseph Harris 1845

Tonau [77.77.77]:
Firth's (<1835)
Rest (<1825)
Turin (Felice de Giardini 1716-96)

(The Patience of God)
I have not been cut down
  By the blows of the king of terror,
My soul has not been condemned -
  I praise God for what has not come;
The great patience of my dear Lord
Smiled on such a worm as me!

There is no guilty one worse than I
  Living under the great sky,
Still I got spared freely -
  Very worthy is God of the praise;
Through the patience of my wise Lord
I was saved from hot hell.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~