Seiniwch y dympan dros fôr yr Aipht brudd!

(Can Miriam)
Seiniwch y dympan
    dros fôr yr Aipht brudd!
Jehofa orchfygodd!
    mae Israel yn rhydd!
  Cenwch, fe ddrylliwyd
      gorfalchedd y gelyn,
    Cerbydau, marchogion,
        a chedyrn o'r bron,
  Bu'n ofer eu hymffrost,
      yr Iôn a'i orchymyn
    A gladdai'r holl fyddyn
        yn nyfnder y don.
Seiniwch y dympan
    dros fôr yr Aipht brudd!
Jehofa orchfygodd!
    mae Israel yn rhydd!

Clod i'r Gorchfygwr:
    rhyfeddol y gwnaeth
Ei air oedd ein cleddyf,
    ei ffun oedd ein saeth,
  Pwy geir i adrodd
      i'r Aipht y blun helynt,
    Trychineb ei dewrion,
        lliosg eu rhif?
  O'i golofn ogoniant
      edrychodd Duw arnynt,
    A boddai'r beilch filwyr
        yn eigion y llif.
Seiniwch y dympan
    dros fôr yr Aipht brudd!
Jehofa orchfygodd!
    mae Israel yn rhydd!
Y Seren Ddydd 1852

[Mesur: 10.10.11.11.12.11.10.10]

(Miriam's Song)
Sound the tambourine
    across the sea of sad Egypt!
Jehovah overcame!
    Israel is free!
  Sing, he smashed
      the boasting of the enemy,
    Chariots, riders,
        and the strong completely,
    Vain was their boast,
        the Lord with his command
    Would bury the whole army
        in the depth of the wave.
Sound the tambourine
    across the sea of sad Egypt!
Jehovah overcame!
    Israel is free!

Praise to the Overcomer:
    wonderfully he has done
His word was our sword,
    his breath was our arrow,
  Who is found to report
      to Egypt the rout,
    The calamity of her brave ones,
        manifold their number?
  From his pillar of glory
      God looked upon them,
    And drowned the proud soldiers
        in the ocean of the flood.
Sound the tambourine
    across the see of sad Egypt!
Jehovah overcame!
    Israel is free!
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~