Tad tragwyddoldeb, plygaf ger dy fron, Ceisiaf dy fendith ddechrau'r flwyddyn hon; Trwy blygion tywyll ei dyfodol hi, Arweinydd anffaeledig, arwain fi. Beth fydd fy rhan ar hyd ei misoedd maith? Nis gwn, fy Nuw; ni fynnwn wybod chwaith. Ai hyfryd ddydd, ai nos dymhestlog ddaw? Bodlon, os caf ymaflyd yn dy law. Ffydd, gobaith, cariad - doniau pennaf gras - Addurno f'oes wrth deithio'r anial cras; Rho imi beunydd fyw'n d'oleuni di: Ddihenydd sanctaidd, tyred, arwain fi. Heneiddia'r greadigaeth, palla dyn, Diflanna oesoedd byd o un i un; Er cilio popeth, un o hyd wyt ti: Y digyfnewid Dduw, O arwain fi.Thomas John Pritchard 1853-1918
Tonau [10.10.10.10]: |
Father of eternity, I bow before thee, I will seek thy blessing at the beginning of this year; Through the dark bends of its future, Unfailing Leader, lead me. What will be my lot along its long months? I do not know, my God; nor would I want to know either. Will delightful day, or a tempestuous night come? Content, if I may grasp thy hand. Faith, hope, love - the chief gifts of grace - Will adorn my life while travelling the rough desert; Give me daily to live in thy light: Holy, ancient one, come, lead me. The creation is aging, man is failing, Disappearing are the ages of the world one by one; Despite the retreat of everything: the same forever art thou: The unchangeable God, O lead me.tr. 2010 Richard B Gillion |
|