Teilwng wyt Ti Arglwydd Iôr

(Mawl-gân nefol)
Teilwng wyt Ti, Arglwydd Iôr
  I dderbyn mawl a chlod,
Anrhydedd a gogoniant gwiw
  Oddiwrth bob byw a bod;
Can's o'th ewyllys da dy hun,
  Y creaist hwynt i gyd,
Ac ar d'ewyllys da y maent
  Yn byw a bod o hyd.

I'r Hwn sy'n eistedd ar y fainc
  Yn Frenin dae'r a nef,
'Rhwn oedd, y sydd, ac fydd, heb dranc
  Na newid ynddo Ef:
Rhoed holl dafodau tanllyd nef
  Ag uchel lef dilyth
A holl dafodau dynol ryw
  Eu hunol foliant byth.
William Rees (Gwilym Hiraethog) 1802-83

Tôn [MCD 8686D]: Hen XLIV (Genevan Psalter 1556)

(A heavenly praise-song)
Worthy art Thou, Sovereign Lord,
  To receive praise and acclaim,
Honour and fitting glory
  From every living being;
Since from thy own good will,
  Thou didst create them all,
And on thy good will they are
  Living and being always.

To him who sits on the throne
  As King of earth and heaven,
Him who was, is and shall be, without dying
  Or any change in him:
Let all the fiery tongues of heaven give
  With a loud, unfailing cry
And all the tongues of human kind
  Their own praise forever.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~