Ti yw'r Offeiriad mawr ei ddawn

(Offeiriadaeth Crist)
Ti yw'r Offeiriad mawr ei ddawn,
Tywalltwyd enaint arno'n llawn;
  Olew llawenydd mawr ei rin,
  Uwch dy gyfeillion bob yr un.

Mae dy aroglau'n taenu i maes,
Yn mhlith gwyryfon, nefol rās;
  Yn enyn tān o ryfedd ddawn,
  Sy'n llosgi foreu a phrydnawn.

Mae dy enwau o bena' ryw,
Dy enw'n ddyn, dy enw'n Dduw;
  Offeiriad, Prophwyd, Brenin mawr,
  Oll yn arogli'n ber yn awr.
William Williams 1717-91
Y Per Ganiedydd 1847

[Mesur: MH 8888]

(The Priesthood of Christ)
Thou art the greatly gifted Priest,
Upon whom was poured out fully;
  The oil of gladness of great virtue,
  Above thy fellows every one.

Thy fragrances are drawing out,
Amongst virgins, heavenly grace;
  Igniting a fire of wonderful gift,
  Which is burning morning and afternoon.

Thy name is of the chiefest sort,
Thy name as man, thy name as God;
  Priest, Prophet, great King,
  All smelling sweetly now.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~