Ti yw fy ngrym, fy nghraig, a'm tŵr, Fy noddfa siwr o ymwared; Fy nrygu mae yn ngallu pwy? Ynot yr wy'n ymddiried. Fy hedd a'm cysur oddi fry, Yn tarddu sy yn gyson; Oni bai hyn, gan swn pob gwae, Llewygu wnai fy nghalon. Oni bai'th fod yn fwy nā'r byd, A'i ddrygau gyd yn gyson, Gan bechod forau a phrydnhawn Dig'lonni wnawn yn union. Fy nyddiau ddarfu fel y mŵg, O'm golwg heb eu rhifo; Ni's gwn gai wel'd cyn angau loes Un dydd na nos fyn'd heibio. Castell wyt ti, tŵr cadarn cry', Yn nyddiau du caethiwed; Dy enw, Iesu, 'n noddfa cawn, Cysurus iawn i'r gweiniaid. Pan delo drygau rif y gwlith, I mewn i blith dy bobol, A'r ffwrn faith boethach, y pryd hyn, Ti fyddi yn y canol.William Williams 1717-91
Tonau [MS 8787]: gwelir: Rhan I - Ffarwel mi af ymlaen i'r wlad |
Thou art my strength, my rock, and my tower, My sure refuge of deliverance; Who can do evil to me? In thee I am trusting. My peace and my comfort from above, Are springing constantly; Otherwise, with the sound of every woe, My heart would faint. Unless thou were more than the world, And all its evils constantly, By sin morning and afternoon I would lose heart directly. My days pass away like the smoke, From my sight without their counting; I do not know that I would get to see before the throes of death One day or night go past. A castle are thou, a strong, firm tower, In the black days of captivity; Thy name, Jesus, as a refuge we may have, Very comforting to the weak. When evils come numerous as the dew, Into the midst of thy people, And the vastly hotter furnace, then, Thou shalt be in the centre.tr. 2022 Richard B Gillion |
|