Trugaredd a ddyg o dir estron Y truan afradlon i'w fro, Pan ydoedd ar drengi gan eisiau, Ymhell o'i chyffiniau ar ffo; Trugaredd â modrwy addurnodd Yr adyn na haeddodd un hedd; Trugaredd i'r tŷ a'i gwahoddodd, Trugaredd arlwyodd y wledd. Trugaredd sy'n galw y gelyn Ystyfnig, a chyndyn, a châs, At orsedd y nefoedd i blyga, A chanu i'r Iesu a'i ras: Trugaredd yw testyn y nefoedd, Trugaredd wnaeth luoedd yn lan, Trugaredd yw gwledd y pechadur, Ei obaith, ei gysur, a'i gân.Ebenezer Thomas (Eben Fardd) 1802-63
Tonau [9898D]: |
'Twas mercy led from the foreign land The wretched prodigal to his region, When he was about to perish in need, Far from its borders having fled; Mercy with a ring adorned The scoundrel who deserved no peace; Mercy to the house invited him, Mercy prepared the feast. 'Tis mercy that is calling the enemy, Stubborn, and obstinate, and hateful, To the throne of heaven to bow, And sing to Jesus and his grace: Mercy is the theme of heaven, Mercy made hosts holy, Mercy is the feast of the sinner, His hope, his comfort, and his song.tr. 2020 Richard B Gillion |
|