Trwy Grist a'i werthfawr waed Y daeth maddeuant rhâd, I ddynol-ryw Iachawdwr gwiw a gaed; Ei fywyd pur a'i angeu loes, A'i ddioddefaint ar y groes, A ddygo fy serchiadau Tra par'o dyddiau f'oes. Yn nyfnder pob rhyw loes A gorthrymderau f'oes Fy noddfa a'm nerth Yw'r aberth ar y groes: Rhinweddau haeddiant marwol glwy' Yw 'nghysur yn y byd tra bwy' A'm hunig ddigonoldeb I dragwyddoldeb mwy.Siarl Mark 1720-95
Tonau [6646.8876]: gwelir: Mae udgorn Jiwbili Teg wawriodd arnom ddydd |
Through Christ and his precious blood Came free forgiveness, For human-kind A worthy Saviour was found; His pure life and his throes of death, And his suffering on the cross, Shall draw my affections While the days of my life endure. In the depth of every kind of anguish And the afflictions of my life My refuge and my strength Is the sacrifice on the cross: The merits of the virtue of a mortal wound Are my comfort in the world while I live And my only sufficiency For an eternity henceforth.tr. 2019 Richard B Gillion |
|