Tydi, fy unig Arglwydd yw Terfyniad cystudd bob rhyw, A diwedd gofal, diwedd gwae: Pob trallod sydd fewn y byd Sy'n darfod ynot Ti ynghyd; 'D oes yn Dy gwmni boen na thrai. Pa bryd y ffŷ cymylau'r nôs, Sy'n cuddio rhinwedd gwaed y groes? Pa bryd câf wel'd yn oleu clir Yr etifeddiaeth ddaeth i'm rhan, Wrth goelbren nef, yn oreu fàn O'r hyfryd, sanctaidd, nefol dir. Mae meddwl am yr oriau pur Câf rodio paradwysaidd dir, Ac yfed pleser sy'n parhau, Mewn gwlad heb lewyrch haul na lloer, Na therfysg tir, na thwrf y môr, Yn awr yn gwneyd im' lawenhau.William Williams 1717-91
Tonau [888D]: |
Thou, my only Lord, art The termination of affliction of every kind, And the end of care, the end of woe, Every trouble that is within the world Vanishes in thee altogether; In thy company there is neither pain nor decrease. When will the clouds of night flee, That are hiding the merit of the blood of the cross? When may I see in clear light The inheritance that came to my portion, By the beacon of heaven, in the best place Of the delightful, sacred, heavenly land? Thought about the pure hours When I may walk the land of paradise, And drink the pleasure that endures, In a land without the shining of sun or moon, Or uproar of land, or tumult of sea, Is now making me rejoice.tr. 2023 Richard B Gillion |
|