Tyrd Ysbryd Glān rho d'olau clir

Tyrd, Ysbryd Glān, rho d'olau clir,
I'n harwain drwy yr anial dir;
  Fel gallom ddilyn hwnnw a roes,
  Ei fywyd trosom ar y groes;
Yna, 'n ôl gorffen ar ein gwaith,
Cael gweld ei wedd ar ben y daith.

Tyrd, Ysbryd Glân, i'w casglu oll,
Dy blant sy'n cyflym fynd ar goll;
  Oddi wrth eu Tad sy'n crwydro 'mhell,
  Arwain hwy'n ôl i fywyd gwell.
Y teulu'n llawn
    fo'n llon eu cān
I'r Tad, a'r Mab,
    a'r Ysbryd Glān.

Tyrd, Ysbryd Glân, nac aros draw,
Tyrd â thangnefedd yn dy law;
  Taena dy ddoniau fel y gwlith,
  Nes meithrin heddwch yn ein plith;
Dysg ni fod holl deyrnasoedd llawr
Yn ddeiliaid bawb i'r Brenin mawr.
Jack Edwards 1853-1942

Tonau:
St Catherine (H F Hemy 1818-88)
Victory (G P da Palestrina / W H Monk)

gwelir: Tyrd Ysbryd Glân nac aros draw

Come, Holy Spirit, give thy clear light,
To lead us through the desert land;
  Thus may we follow him who gave
  His life for us on the cross;
Then, after finishing our work,
Get to see his face at the journey's end.

Come, Holy Spirit, to gather all
Thy children who are quickly getting lost;
  Who from their Father are wandering far,
  Lead them back to a better life.
For the full family
    may their song be cheerful
To the Father, and to the Son,
    and the Holy Spirit.

Come, Holy Spirit, do not stay away,
Come with peace in thy hand;
  Spread thy gifts like the dew,
  Until nurturing peace amongst us;
Teach us that all the kingdoms below are
All tenants of the great King.
tr. 2014 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~