Tan y don yr wyf yn llefain

1,2,3,4,5;  Rhan I: 1,2.
(Gweddi mewn Cystudd)
Tan y don yr wyf yn llefain,
  Mae mynyddau ar fy mhen,
Haen ar haen sydd o gymmylau
  Duon rhyngof fi a'r nen;
Ni fydd rhan o'm cnawd na'm hyspryd,
  Tra fw'i yma fyth yn iach,
Tyred, Arglwydd, a datguddia
  Dy hunan i mi ronyn bach.

Codi'm llygaid 'rwyf i fynu,
  Edrych beunydd tu a'r nef,
Felly 'rwyf yn treulio'r oriau,
  Dim ond dysgwyl wrtho ef;
Dagrau ac ochneidiau trymion,
  Yw fy mywyd yn y byd,
Dim dibenion o riddfanau,
  On' chaf weld dy wyneb pryd.

Mae fy nghalon wedi gwywo,
  Fel y ddae'r mewn sychder mawr,
Pan na byddo cafod hyfryd
  Yn dyferu arni ' lawr:
Mae'm meddyliau i gyd mewn terfysg,
  Ac yn ddyrus iawn yn gwau:
Nid oes diben ar fy nghystudd,
  Ond yn unig dy fwynhau.

Ffynnon wyt o bob tosturi,
  Nid oes gwybod faint dy ras,
Dy haelioni sydd yn cynnal
  Pob peth dan yr awyr las:
Dal fy yspryd gwan i fyny,
  Edrych ar y bryniau mawr,
Sydd yn pwyso ar fy nghalon,
  Ac yn ceisio'm dodi i lawr.

Edrych ar y pair 'rwyf ynddo,
  Na'd i'r fflamiau mawr eu grym,
Sydd o'm cylch yn awr yn llosgi,
  Wneuthur drwg tragwyddol im':
C'wilydd, gwarth, a chroesau trymion,
  Sydd yn curo arna'i 'n un;
Ac nid oes a'm deil i fyny,
  Ond dy Yspryd di dy hun.
Haen ar haen :: Han ar han
Tra fw'i yma fyth :: Tra bwyf yma byth

William Williams 1717-91
Mor o Wydr 1762

Tonau [8787D]:
Bohemia (Darmstädter Gesangbuch 1698)
Dismission (J F Wade c.1711-86)
Eifionydd (J A Lloyd 1815-74)

gwelir:
  Rhan II - Mae fy nghalon wedi gwywo
  Dyro olwg ar dy haeddiant
  Ffynnon wyt o bob tosturi
  Gwlad o d'wllwch wyf yn trigo
  Mae rhyw foroedd o drugaredd

(Prayer in Affliction)
Under the wave I am crying,
  There are mountains on my head,
Layer upon layer there are of black
  Clouds between me and the sky;
No portion of my flesh or my spirit
  While I am here shall be healthy,
Come, Lord, and reveal
  Thyself to me for a short while.

Raising my eyes up am I,
  Looking daily towards heaven,
Thus I am spending my hours,
  Only waiting upon him;
Tears and heavy groans
  Are my food in the world,
No end of groanings,
  Unless I get to see thy countenance.

My heart has wilted,
  Like the earth in a great drought,
When there be no delightful shower
  Watering down upon it:
All my thoughts are in tumult,
  And weaving very troublesome:
There is no end to my affliction
  But only in enjoying thee.

A fount thou art of every mercy,
  There is no knowing thy grace's extent,
Thy generosity is upholding
  Every thing under the blue sky:
Hold my weak spirit up,
  Look at the great hills,
Which are weighing upon my heart,
  And seeking to put me down.

Look at the cauldron I am in,
  Do not let the flames of great force,
Which are around me now burning,
  Do any eternal harm to me:
Shame, disgrace, and heavy crosses,
  Are beating upon me as one;
And there is none to hold me up
  But thine own Spirit.
::
::

tr. 2023 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~