Teyrnasu fry mae Ef yn awr
Yno y mae fy Mrenin mawr

(Crist yn Frenin)
Teyrnasu fry mae Ef yn awr,
Gan edrych rhwng y sêr i lawr:
  A gweled mae fy enaid gwan
  Yn teithio o'r anial fyd i'r làn.

Eistedda ar ddeheulaw'r Tad,
Y nef sy'n fflamio dan ei draed;
  Ar orsedd wen, ofnadwy'n wir,
  Yn nghanol y goleuni pur.

Mil myrdd angelion yn ei ŵydd,
Ag enaid rhydd yn moli'n rhwydd:
  Seraphiaid a cherubiaid lu,
  Yn seinio drwy'r
      holl nefoedd fry.

Mewn gwisg i'w draed
    a gwregys aur,
Fy Mrenin cadarn yno cair,
  Ger bron ei Dad
      yn cofio'i loes,
  Y goron ddrain ac
      angeu'r groes.

              - - - - -
(Dat. xxi. 1,16,19,20,22,23,&c. - Rhan II)
Yno y mae fy Mrenin mawr,
Yn edrych rhwng y sêr i lawr;
  Yn awr yn gweld fy enaid gwan,
  Yn teithio o'r anial fyd i'r lan.

Mi wela draw fy anwyl Dad,
Y nef sy'n flammio tan ei draed;
  Ar orsedd wen ofnadwy'n wir,
  Ynghanol y goleuni pur.

Mae myrdd o angylion yn ei wydd,
Ag enaid rhŷdd yn moli'n rhwydd;
  Seraphiaid a Cherubiaid lu,
  Sy'n seinio'n fra'
      yn y nefoedd fry.

Mewn gwisg i'w draed a gwregys aur,
Fy Mhrynwr cadarn yno cair:
  Ger bron ei Dad yn cofio am loes,
  Y goron ddrain ac
      angau'r groes.

Teyrnasu mae fy Rhosyn per,
Ymhlith y saint uwchlaw y ser;
  Mewn cariad, hedd a gras didrai,
  Yn eiriol tros ei anwyl rai.
William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Colne (<1875)
Courland (F J Haydn 1732-1809)
New Court (Hugh Bond)

gwelir:
  Rhan I - Cod f'enaid gwan yn fuan gwel
  Rhan III - O flaen y fainc mil miloedd mae
  Rhan IV - Yno mae'r apostolion mawr
  Rhan V - Wel dyma hwy'r gadwedig hîl

(Christ as King)
Reigning above is He now,
While looking down between the stars:
  And seeing he is my weak soul
  Travelling up from the desert land.

Sitting a the right hand of the Father,
Heaven is flaming under his feet;
  On a white throne, truly terrifying,
  In the midst of the pure light.

A thousand myriad angels in his presence,
With a free soul praising readily:
  A seraphic and cherubic host,
  Sounding throughout all
      the heavens above.

In clothing to his feet
    and a belt of gold,
My firm King is there to be found,
  Before his Father
      remembering his anguish,
  The crown of thorns and
      the death of the cross.

                - - - - -
(Rev. 21:1,16,19,20,22,23,&c. - Part 2)
There is my great King,
Looking down between the stars;
  Now seeing my weak soul,
  Travelling up from the desert world.

I see yonder my beloved Father,
Heaven that is flaming under his feet;
  On a truly terrible white throne,
  In the middle of the pure light.

There are a myriad angels in his presence,
With free souls praising extravagantly;
  A seraphic and cherubic host,
  Who are sounding pleasantly
      in the heavens above.

In raiment to his feet and a belt of gold,
My strong Redeemer is there to be found:
  Before his Father remembering anguish,
  The crown of thorns and
      the death of the cross.

Reigning is my sweet Rose,
Amongst the saints above the stars;
  In unebbing love, peace and grace,
  Interceding for his beloved ones.
tr. 2018,23 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~