1,(2),3,4. Ti Iesu, Frenin nef, Fy Arglwydd a fy Nuw, Yn eitha pell o dy fy Nhad, Mewn anial wlad 'rwy'n byw; Mewn ofnau 'rwyf a braw, Bob llaw gelynion sydd, O addfwyn Iesu sâf o'm rhan, A thyn y gwan yn rhydd. O Arglwydd bydd yn Ffrind, Rwy bron yn myn'd ar ŵyr, I gyfeilliornad o bob rhyw, Fy unig Dduw a'i gŵyr; O Iesu dal fi i'r làn, Nid wyf ond gwan a gwyw, 'Does dim all olchi mrynti câs, Ond unig râs fy Nuw. Mae rhinwedd yn ei waed, I faddeu beiau mwy Nag y gall angel fyth na dyn Wneud rhif o honyn' hwy; Mae ffynnon ar y bryn, A ylch yn wyn a glân, Bechodau o ryw ffieiddia 'rioed, Rhifedi'r tywod mân. Iorddonen drŷ yn ôl, 'Roi lle i'r nefol hâd, I etifeddu'r hyfryd fan, Addawyd gan y Tad: Ni all pechod nag un chwant, Byth attal plant y nef, I dreiddio trwy bob llif a thonn, Yn union atto ef.William Williams 1717-91
Ti, Iesu, Frenin nef, F' Anwylyd, a fy Nuw Yn eithaf pell o dŷ fy Nhad, Mewn anial wlad, 'rwy'n byw; Mewn ofnau 'rwyf, a braw, Bob llaw gelynion sydd; O! addfwyn Iesu, saf o'm rhan, A thyn y gwan yn rhydd. Mae Satan ar fy ne' Yn pledio grym fy chwant; Ac mae euogrwydd, gwmwl du, Yn cadw'r goleu i bant; Mae pechod gyda'r rhai'n A'i uffernol sain mor gry', 'Rwyf finnau'n diangc, rhag fy nal, I fynydd Calfari. Ac yno, dan y groes, Mi glywaf gryfach llef, Mi glywaf ocheneidiau gwir, Griddfanau pur y nef; Ac yno gwnaf fy nyth, Yn mhlith rhai dua'u rhyw; Mi daflaf fy euogrwydd du Yn hollol i fy Nuw. Mae rhinwedd yn dy waed I faddeu beiau mwy Nag y gall angel fyth, na dyn, I rifo mo honynt hwy; Mae ffynnon ar y bryn A ylch yn wyn a glân, Bechodau o'r ffieiddia 'rioed, Rifedi'r tywod mân. 'Does diwedd fyth, na thrai, Ar gariad angeu loes, Uwch pris o'r gwerthfawrocaf gaed Yw haeddiant gwaed y groes: Fe gana'r Negro du, Fe gana'r Indiad draw, Fe faddeu i'r aflan oes y sydd, Fe faddeu i'r oes a draw.William Williams 1717-91
(Haeddiant y Groes) Ti Iesu, Frenin nef, F'Anwylyd i a'm Duw! Yn eitha pell o dŷ fy Nhad, Mewn anial wlad 'rwy'n byw; Mewn ofnau 'rwyf a braw, Bob llaw gelynion sydd, O addfwyn Iesu saf o'm rhan, A thyn y gwan yn rhydd. Mae rhinwedd yn dy waed, I faddau beiau mwy Nag y gall angel chwaith na dyn Byth rifo monynt hwy. Mae ffynnon ar y bryn, A ylch yn wyn a glân, Bechodau o'r ffieiddia' 'rioed, Rhifedi'r tywod mân. Does diwedd fyth na thrai Ar gariad angau loes; Uwch pris o'r gwerfawrocaf gaed Yw haeddiant gwaed y groes. Fe gàna'r Negro du Fe gàna'r Indiad draw; Fe faddeu i'r aflan oes y sydd, Fe faddeu i'r oes a ddaw.William Williams 1717-91
1,2,3; 1,2,4,5. Ti Iesu, Frenin nef, F'Anwylyd a fy Nuw, Yn eithaf pell o dŷ fy Nhad, Mewn anial wlad 'rwy'n byw; Mewn ofnau 'rwyf a braw, Bob llaw gelynion sydd, O addfwyn Iesu saf o'm rhan, A thyn y gwan yn rhydd. O Iesu, dal fi i'r lan, Nid wyf ond gwan a gwyw; 'Does dim all olchi mryntni cas Ond nefol ras fy Nuw. Boed fy nghymdaithas fyth Fry gyda'm nefol Dad, A chyda'r Mab, tra bwy'n y byd, Ac yn y nefol wlad. Sefydlog fyddo'm bryd, A'm cariad arno Ef, Nes cael cymundeb perffaith lawn O fewn i furiau'r nef.Priodolwyd gan Llawlyfr Moliant 1880, 1890 a 1930 i Joseph Harris (Gomer) 1773-1825
Tonau [MB 6686]:
Tôn [MBD 6686D]: gwelir: Caed ffynnon ar y bryn O gwrando weddi'r tlawd O Iesu dal fi i'r lan |
Thou Jesus, King of heaven, My Lord and my God, Very far from my Father's house, In a desert land I am living; In fears I am and alarm, On every hand are enemies, O dear Jesus stand on my side, And draw the weak one free. O Lord, be a Friend, I am almost going astray, To strayings of every kind, My only God knows it; O Jesus, hold me up! I am only weak and wizened, There is nothing that can wash my detestable filthiness, But only the grace of my God. There is virtue in his blood, To forgive sins - more Than an angel ever can or man Determine the number of them. There is a fountain on the hill, Which washes white and clean, Sins of the most detestable kind ever, Numerous as the fine sand. The Jordan will turn back, Give way to the heavenly seed, To the inheritance of the delightful place, Promised by the Father: Sin cannot, nor one desire Ever stop the children of heaven, From passing through every flood and wave, Straight to him.
(The merit of the cross greater than the force of guilt) Thou, Jesus, King of heaven, My Beloved, and my God, Extremely far from my Father's house, In a desert land, I am living; In fears I am, and terror, On every hand there are enemies; O gentle Jeu, stand on my side, And pull the weak free. Satan is at my right hand Pleading the force of my lust; And my guilt, a black cloud, is Keeping the light away; Sin is with these With its infernal sound so strong, But I am escaping, from being caught, To the mountain of Calvary. And there, under the cross, I hear a stronger cry, I hear true groanings, The pure groans of heaven; And there I shall make my nest, Amongst those of the blackest kind; I shall fling my black guilt Wholly to my God. The merit of the blood To forgive faults is greater Than any angel or man can Count them; There is a fount on the hill That washes white and clean, Sins of the most detestable ever, Numerous as the fine sand. There is never any ending, or ebbing, To the love of divine anguish, Above the price of the most precious found Is the merit of the blood of the cross: It bleaches the black Negro, It bleaches yonder Indian It forgives the unclean age that is, It forgives the age to come.
(The Merit of the Cross) Thou Jesus, King of heaven, My Darling and my God! Very far from my Father's house, In a desert land I am living; In fears I am and alarm, On every hand enemies are, O gentle Jesus stand on my side And draw the weak one free. There is virtue in thy blood, To forgive sins That neither angel nor man can Ever number. There is a fountain on the hill, To wash white and clean, Sins of the most detestable ever, Numbered as the fine sand. There is no end ever nor ebb To the love of the throes of death; Above the price of the most expensive thing to be had Is the merit of the blood of the cross. It will bleach the black Negro It will bleach yonder Indian; It will forgive the unclean for the present age, It will forgive for the age to come.
Thou Jesus, King of heaven, My Darling and my God, Very far from my Father's house, In a desert land I am living; In fears I am and alarm, On every hand enemies are, O gentle Jesus stand on my side And draw the weak one free. O Jesus, hold me up, I am only weak and wizened; Nothing can wash my hated filthiness But the heavenly grace of my God. May my fellowship ever be Above with my heavenly Father, And with the Son while living in the world, And in the heavenly land. Established be my mind, And my love upon Him, Until obtaining fully perfect communion Within the walls of heaven.tr. 2009,23 Richard B Gillion |
|