Ti Arglwydd yw fy rhan, A'm trysor mawr di-drai; A Noddfa gadarn f'enaid gwan, Ym mhob rhyw wae: Ac atat 'rwyf yn ffoi, Dy fynwes yw fy nyth, Pan fo gelynion yn crynhoi Rifedi'r gwlith. O! dangos D'allu mawr, Dy faith anfeidrol râs, A dywed wrthyf fi yn awr Câf gario'r maes; Ac atat 'rwyf yn ffoi, Dy fynwes yw fy nyth, Pan fo gelynion yn crynhoi, Rifedi'r gwlith. Tydi, fy Nuw, ei hun, Anfeidrol berffaith Fod, Sy'n trefnu daear, da, a dyn, I'th ddwyfol glod; Cyfrwydda f'enaid gwan, Trwyr anial yn y blaen, Ac arwain fi 'mhob dyrys fan, Â'th golofn dân. Dy Ysbryd sanctaidd, cun, Dywysodd fyrdd o saint, Rho imi brofi ei felus rin, Anfeidrol fraint; Fel dyfroedd gloewon clir, I loni'r llesg a'r gwan, Dyddanwch yn yr anial dir, I'm dal i'r lan. - - - - - Ti Arglwydd yw fy Nhŵr, Fy Nhrysor yn mhob man; A Noddfa gadarn yn mhob gwae, Fy enaid gwan: Rho nerth i eiddil ffoi, I fynwes bur fy Ner, Pan fo gelynion yn crynhoi Rifedi'r sêr. Tydi, fy Nuw, ei hun, Anfeidrol berffaith Fod, Sy'n trefnu daear, da, a dyn, I'th ddwyfol glôd; Cyfarwydda'm henaid gwan, Trwy'r anial dd'od ymlaen, Ac arwain fi 'mhob dyrŷs fan, Â'r golofn dân. Dy Ysbryd hyfryd hael, Dywysodd yr holl saint, O gâd i minna' 'r gwana' ei gael, Anfeidrol fraint; Fel dyfroedd gloyw clir, I loni'r llesg a'r gwan; Dyddanydd yn yr anial dir, I'm dal i'r làn. O dal fi 'rwf heb rym, Yr ochr hyn a thraw, Os sefyll wnai, ni safai ddim, Ond yn dy law; O dal fy mhen i'r làn Yn gadarn bydd o'm tu, A dŵg fi o'm cystudd yn y man I'r Ganaan frŷ. Fe bellach fydd fy nghraig, A'm castell cadarn clŷd, Fy nhŵr, fy nerth, am noddfa lân, A 'nghân ynghyd; Fe dalodd werthfawr waed, Pwy ofyn imi mwy? Can's anfeidroldeb maith a gaed, Mewn dwyfol glwy'. Fe bellach :: Crist bellach A 'nghân ynghyd :: A'm cân i gyd Pwy ofyn imi :: Pwy all gondemnio
Tonau [6684D]: |
Thou, Lord, art my portion, And my great un-ebbing treasure; And the firm refuge of my weak soul, In every kind of woe: And to thee I want to flee, Thy breast is my nest, Whenever enemies gather Numerous as the dew. Oh, show Thy great power, Thy vast, immeasurable grace, And say to me now I may get to carry the field; And to thee I am fleeing, Thy breast is my nest, When enemies be gathering Numerous as the dew. Thou, my God himself, Immeasurable, perfect Being, Who dost arrange earth, beasts, and man, For thy divine praise; Guide my weak soul Forward through the desert, And lead me in every troublesome place, With thy column of fire. Thy dear, holy Spirit Who led a myriad of saints, Give me a taste of his sweet virtue, An immeasurable privilege; Like shining, clear waters, To cheer the fainting and the weak, A comfort in the desert land, To hold me up. - - - - - Thou, Lord, art my Tower, My Treasure everywhere; And a firm Refuge in every woe, Of my weak soul: Give strength for a feeble one to flee, To my Master's pure breast, Whenever enemies gather Numerous as the stars. Thou, my God, himself, Infinite perfect Being, Who dost arrange earth, beasts, and man, To thy divine acclaim; Direct my weak soul, Through the desert to come forward, And lead me in every troublesome place, With the pillar of fire. Thy delightful generous Spirit, Led all the saints, O let me too, the weakest found, have An immeasurable privilege; Like clear bright waters, To cheer the feeble and the weak; A Comforter in the desert land, To hold me up. O hold me, I am without strength, On this side and yonder, If I shall stand, I shall not stand at all, But in thy hand; O hold my head up Be firmly on my side, And bring me from my affliction in a while To the Canaan above. Henceforth he shall be my Rock, And my firm secure Castle, My Tower, my Strength, and my holy Refuge, And my Song altogether; Precious blood paid, Who asks of me any more? Since an immeasurable vastness was got, In a divine wound? Henceforth he :: Henceforth Christ And my Song altogether :: And all my song Who asks of me :: Who can condemn tr. 2012,23 Richard B Gillion |
|