Ti Arglwydd yw fy mhlaid

(Tad yr Amddifad)
  Ti, Arglwydd, yw fy mhlaid,
    A'th enw'n gadarn Iôr;
  Tosturi at fy rhaid
    Sydd ynot fel y môr;
Mewn cyfyngderau fwy na rhi
Tad yr amddifad ydwyt Ti.

  Mor anodd dwyn y groes
    Yn wyneb llawer cledd;
  A chalon dan ei gloes
    Yn griddfan ar y bedd;
Ond llawenyched teulu'r ffydd
Fod nerth i'w gael
    yn ol y dydd.

  Er bod y nos yn ddu,
    A natur yn llescau,
  A châr a chyfaill cu
    Yn distaw ymbellhau;
Yn nuaf nos yr anial fyd
Mae'n oleu tua'r nef o hyd.

  Cysuron sydd yn ffoi
    I chwlio am y wawr,
  Ac ofnau'n ymgrynhoi
    Yn sŵn y storom fawr;
Ac nid oes neb yn dal yr un
Ar lwybrau'r bedd ond Ti Dy hun.

  Ar ffordd y byd a ddaw
    Ynghanol niwl y glyn,
  Gad imi weld Dy law
    A chydio ynddi'n dyn;
Er wylo'n llesg
      ar lan y lli
Tad yr amddifad ydwyt Ti.
Evan Rees (Dyfed) 1850-1923

[Mesur: 666688]

(Father of the Destitute)
  Thou, Father, art my choice,
    And thy name is a firm Lord
  Mercy towards my need
    Is within thee like the sea;
In straits more than number
The Father of the destitute art Thou.

  How difficult to bear the cross
    In the face of many a sword;
  And a heart under its anguish
    Groaning over the grave;
But let the family of faith be cheered
That there is strength to be had
    after the day.

  Although the night be black,
    And nature languishing,
  And lover and dear friend
    Silently getting more distant;
In the darkest night of the desert world
There is always light towards heaven.

  Comforts are fleeing
    To seek for the dawn,
  And fears gathering
    In the sound of the great storm;
And there is no-one staying the same
On the paths of the grave but Thou Thyself.

  On the road of the coming world
    In the midst of the fog of the vale,
  Let me see Thy hand
    And grasp it tightly;
Although weeping feebly
      on the bank of the flood
The Father of the destitute art Thou.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~