Ti blennaist, Arglwydd, d'Eglwys lān Mewn byd sy'n aflan odiaeth, Yn winllan dyner, werdd, ac ir, Ynghanol crastir diffaith. Mae'n llawn o lysiau, nid o'r byd, Ond planwydd Ysbryd Iesu; Nid gwlith y byd, na'i wrtaith gau, A bair i'w llysiau dyfu. Nid dim ond gwlith o'r nefol dir Rydd gynnydd i'r eginau; Nid dim ond gwlaw o ddwyfol ddawn Addfeda'n llawn ei ffrwythau. Mae'r haul yn boeth yn uchder nawn, Mae'r egin grawn yn crino; A'r ffrwyth, gan wynt y ddaear ddu, Cyn llawn addfedu'n gwywo. Bwrw cawodau llawn o faeth Ar d'etifeddiaeth, Arglwydd; A thywallt arni nefol wlith Dy ras a'th fendith fawrlwydd. Ā glaw gwteithio d'Ysbryd Glān Ireiddia winllan d'Eglwys, Nes bod ei blodau'n aml a hardd, A'i ffrwyth fel gardd Baradwys.Morris Williams (Nicander) 1809-74 [Mesur: MS 8787] |
Thou didst plant, Lord, thy holy Church In a world which is extremely unclean, As a vineyard tender, green, and fresh, Amidst a parched desert land. It is full of herbs, not of the world, But saplings of the Spirit of Jesus; Not the dew of the world, nor its false fertilization, Shall cause its herbs to grow. Nothing but dew from the heavenly land Shall give growth to the shoots; Nothing but rain from a divine gift Shall mature fully its fruits. The sun is hot at the height of afternoon, The shoots of grain are shrivelling; And the fruit, by the black earth's wind, Before fully maturing is withering. Rain thou showers full of nutrient Upon thy inheritance, Lord; And pour upon it the heavenly dew Of thy grace and thy highly prosperous blessing. With fertilizing rain may thy Holy Spirit Freshen the vineyard of thy Church, Until its flowers are many and beautiful, And its fruit like the garden of Paradise.tr. 2019 Richard B Gillion |
|