Ti Dduw a garaf ynot Ti

1,(2),3,4.
Ti, Dduw! a garaf; ynot Ti
  Y mae i mi gadernid;
Yr Arglwydd imi'n Graig y sydd,
  Efe a'm rhydd mewn rhyddid.

Fy Nhwr a'm Hamddiffynfa yw,
  Mae'n rymus Dduw i'm gwared;
Fy Nharian cryf a'm Corn yw Naf,
  Ac ynddo gwnaf ymddiried.

Galwaf ar Dduw mewn gweddi a chān,
  Yr Arglwydd glān a folaf;
Ac felly rhag fy ngelyn cas,
  Yn rhydd trwy ras y byddaf.

O'm hing y gelwais ar Dduw nef,
  Fe glybu'm llef yn gwaeddi;
O'i deml y clybu Duw fy llais,
  Atebodd gais fy ngweddi.
Anhysbys
Emynau ... yr Eglwys (Daniel Evans) 1883

Tonau [MS 8787]:
Deemster (William Owen 1814-93)
Oldenburg (J H Schein 1586-1630)
Trallwm (J A Lloyd 1815-74)

Thee, God, I will love! In Thee
  Is strength for me;
The Lord to me a Rock he is,
  He will give to me in freedom.

My Tower and my Defence he is,
  He is a forceful God to deliver me;
My strong shield and my Horn is the Lord,
  And in him I will trust.

I call on God in prayer with a song,
  The holy Lord I will praise;
And thus from my detestable enemy,
  Free through grace I shall be.

From my anguish I called on the God of heaven,
  He heard my cry shouting;
From his temple God heard my voice,
  He answered the request of my prayer.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~