Ti Ffynnon pob daioni

(Emyn Priodas)
Ti, Ffynnon pob daioni,
  Gwraidd pob cysuron drud,
Rho fendith ar y ddeuddyn,
  A bydded wyn eu byd;
Dy ffrydiau lawenycho
  Eu haelwyd ddyddiau'u hoes;
Dy dangnef fyddo'u cysgod,
  A'u grym fo yn dy groes.

Yn naear deg dy gariad
  Eu greiddiau fyddo'n gry';
A'u twf yn dirf a chyson
  O fewn cynteddau'r Tŷ;
Boed modrwy y cyfamod
  Wna heddiw'r ddau yn un
O fewn i rwymyn bythol
  Dy heddwch Di dy Hun.
J G Moelwyn Hughes (Moelwyn) 1866-1944

Tonau [7676D]:
    Chebar (Henry Smart 1813-79)
    Meirionydd (William Lloyd 1786-1852)

(Wedding Hymn)
Thou, Fount of every goodness,
  Root of every costly comfort,
Put a blessing on the couple,
  And may they be blessed;
May thy streams cheer their homestead
  All the days of their life;
Thy peace be their shelter,
  And their strength be in thy cross.

In the fair earth of thy love
  May their roots be strong;
And their growth luxuriant and constant
  Within the courts of thy House;
May the ring of their covenant
  Today make the two one
Within the eternal bond
  Of Thy own peace.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~