Ti Greawdwr mawr y nefoedd

Ti Greawdwr mawr y nefoedd,
Mor ardderchog dy weithredoedd;
  Ti yw Brenin creadigaeth,
  Ti yw awdur iachawdwriaeth.

Ti, O Dduw, sydd yn teyrnasu
Pan fo seiliau'r byd yn crynu;
  Ti fu farw dan yr hoelion
  Er mwyn achub dy elynion.

Ti, O Dduw, sy'n pwyso'r bryniau
A'r mynyddoedd mewn cloriannau;
  Ti sy'n pwyso'r wan ochenaid
  Ac yn mesur ingoedd enaid.

Ti sy'n rhifo'r sêr fyrddiynau
Gan eu galw wrth eu henwau;
  Ti sy'n gwella'r fron friwedig
  Ac yn rhwymo'r galon ysig.

Ti sy'n gwisgo d'orsedd olau
Mewn tywyllwch a chymylau;
  Yn dy gariad ti sy'n anfon
  Dy faddeuant llwyr i'm calon.
Ben Davies 1864-1937

Tôn [8888]: Morfudd/Morfydd (alaw Gymraeg)

Thou great Creator of the heavens,
How excellent thy works;
  Thou art the King of creation,
  Thou art the author of salvation.

Thou, O God, dost reign
Whenever the world's foundations tremble;
  Thou didst die under the nails
  In order to save thy enemies.

Thou, O God, dost weigh the hills
And the mountains in scales;
  Thou does weigh the groan of the weak
  And measure a soul's pangs.

Thou dost number the stars in myriads
While calling them by their names;
  Thou dost restore the bruised breast
  And bind up the wounded heart.

Thou dost clothe thy throne of light
With darkness and clouds;
  In thy love thou dost send
  Thy total forgiveness to my heart.
tr. 2010 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~