Ti yr hwn sy'n gwrando gweddi, atat ti y daw pob cnawd; Llef yr isel ni ddirmygi, clywi ocheneidiau'r tlawd: Dy drugaredd sy'n cofleidio'r ddaear faith. Minnau blygaf yn grynedig wrth dy orsedd rasol di Gyda hyder gostyngedig yn haeddiannau Calfari: Dyma sylfaen holl obeithion euog fyd. Hysbys wyt o'm holl anghenion cyn eu traethu ger dy fron; Gwyddost gudd feddyliau 'nghalon a chrwydriadau mynych hon: O tosturia, ymgeledda fi â'th ras. Nid oes ond dy ras yn unig a ddiwalla f'eisiau mawr; O rho'r profiad bendigedig o'i effeithiau imi nawr: Arglwydd, gwrando mewn trugaredd ar fy llef. anghenion :: angenion ddiwalla f'eisiau :: ddiwalla'm eisiau Robert M Jones (Meigant) 1851-99
Tonau: |
Thou art the one who dost listen to prayer, To thee comes all flesh; The humble cry thou wilt not despise, Thou hearest the groans of the poor: It is thy mercy Which enfolds the extensive earth. I will bend bowing At thy gracious throne With submissive confidence In the merits of Calvary: Here is the foundation Of all the hopes of a guilty world. Thou art familiar with all my needs Before they are expressed before you; Thou knowest the hidden thoughts of my heart And such frequent wanderings: O have mercy, Succour me with thy grace. It is nothing but thy grace alone That satisfies my great needs; From giving the blessed experience From its effects to be now; Lord, to listen In mercy to my cry. :: :: tr. 2008 Richard B Gillion |
|