Tra [fwy'n / yn] Dy gwmni f'Arglwydd mawr

RHAN I
(Nerth mewn cymdeithas ā Duw)
Tra yn Dy gwmni, f'Arglwydd mawr,
'Rwyf wrth fy modd bob munyd awr,
  A blino 'rwyf, fy Nuw, o hyd,
  Yn nwndwr ac yn
      nhwrf y byd.

Iach wyf pan byddwyf yn Dy ŵydd,
A'm henaid yn Dy foli'n rhwydd;
  Tra yma'n byw, gwna Di fy lle
  Yn agos iawn at borth y ne'.

A dyro im' Dy gwmni o hyd
Tra rhaid im' aros yn y byd;
  Diddana fi mewn anial dir
  A ffrydiau o ddiddanwch pur.

Gād imi wel'd mai Ti yw'm rhan,
Gād imi'th ganfod yn mhob mān,
  Gād imi'n wastad blygu i lawr
  I'th lān ewyllys bob yr awr.
Tra yn Dy :: Tra fwy'n Dy
Iach wyf :: Wyf iach
I'th lān ewyllys bob yr :: I'th lān ewyllys Di bob

William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Babilon (Jacques de Champion 1600-72)
Brynteg (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Carey (Henry Carey 1687-1743)
Exeter (William Dorrell 1810-96)
Golgotha (<1905)
Hursley (W A Mozart 1756-91)
Randoph (Daniel Protheroe 1866-1934)

gwelir: RHAN II - Dal fi fy Nuw dal fi i'r lan

Part 1
(Strength in fellowship with God)
While in thy company, my great Lord,
I am contented every single minute,
  And I am weary, my God, always,
  In the clamour and in
      the tumult of the world.

Whole am I when I am in Thy presence,
And my soul praising Thee freely;
  While living here, make Thou my place
  Very near to the region of heaven.

And grant my Thy company always
While I must stay in the world;
  Comfort me in the desert land
  With streams of pure delight.

Let me see that Thou art my lot,
Let me find thee in every place,
  Let me continually bend down
  To thy pure will every hour.
While in Thy :: While I am in Thy
::
::

tr. 2010 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~