Rhan I Traethodd fy nghalon bethau da, I'r Brenin gwna fyfyrdod; Fy nhafod fel y pin y sydd Yn llaw 'sgrifenyyd parod. Uwch meibion dynion tecach wyt, Tywalltwyd rhad i'th enau, Herwydd i Dduw roi arnat wlith Ei fendith byth, a'i radau. Gwregysa'th gleddyf ar dy glun, O gadarn Gun gogonedd; A hyn sydd weddol a hardd iawn, Mewn llwydd a llawn orfoledd. Dy lân orseddfaingc, O Dduw! fry, A bery o dragwyddoldeb; Awdurdod dy deyrnwialen sydd Mewn nerth, a rhydd uniondeb. Rhan II Clyw hyn, O ferch, a hefyd gwel, Ac â chlust isel gwrando; Mae'n rhaid it' ollwng pawb o'th wlad, A thŷ dy dad yn ango'. Coffâf dy enw di ym mhob oes, Tra caffwyf einioes imi; Am hyny bobloedd a rydd fawl Byth yn drag'wyddawl iti.Edmwnd Prys 1544-1623
Tonau [MS 8787]: |
Part 1 My heart expounded good things, For the King I will make my meditation; My tongue which is like the pen In the hand of a ready scribe. Above the sons of men, fairer art thou, Grace is poured into thy mouth, Since God gave thee the dew Of his blessing forever, and his favours. Buckle thy sword upon thy thigh, O firm Dear One of glory; And this is fair and very beautiful, In prosperity and full rejoicing. Thy holy throne, O God, above, Shall endure from eternity; The authority of thy sceptre which is In strength, shall give uprightness. Part 2 Hear this, O daughter, and also see, And with a low ear listen; There is need for thee to lose everyone from thy land, And forget thy father's house. I will remember thy name in every age, While ever I have a life; Therefore peoples shall give praise Forever, eternally to thee.tr. 2015 Richard B Gillion |
|