Trugaredd tragwyddol fy Ior

Trugaredd tragwyddol fy Ior,
  Pwy fythol all fesur ei hyd?
Mae'n ddyfnach, mae'n lletach, na'r môr,
  Mae'n fwy ei hamgylchoedd na'r byd;
Mae'n cyrhaedd y gogledd a'r de,
  Y dwyrain, gorllewn, nid llai;
Trugaredd sy'n llanw pob lle
  Heb eithriad, na
      throad, na thrai.

Mae'n chwilio am le yn mhob man,
  I weini ymgeledd i ddyn;
Hi gyfyd y truan a'r gwan
  I'r lan ar ei 'nifail ei hun;
Fe'u harwain dan
    gysgod y groes,
  Rhydd iddynt wir foddion i fyw;
A chân yn eu genau
    trwy'u hoes,
  O glod am ei roddion, i Dduw.
Deuddeg Cant ag Un o Hymnau 1868

[Mesur: 8888D]

The eternal mercy of my Lord,
  Who ever can measure its length?
It is deeper, it is wider, than the sea,
  It's compass is greater than the world;
It reaches the north and the south,
  The east, west, no less;
Mercy which floods every place
  Without exception, nor
      turning, nor ebbing.

It is seeking for a place everywhere,
  To serve to support man;
It raises the wretched and the weak
  Up onto his own animal;
It leads them under the
    shadow of the cross,
  It gives them true medicine to live;
And a song in their mouths
    throughout their lifespan,
  Of praise for his gifts, to God.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~