Trwy orthrymderau fil

(Y Daith adref)
Trwy orthrymderau fil
  Mae mynd i'r nefol wlad;
Mae'r daith ymhell a'r ffordd yn gul
  I hyfryd Dŷ ein Tad.

Nid yw'r gofidiau sydd,
  I fod ond dros brynhawn;
A phan gyrhaeddwn wlad y dydd
  Gorfoledd byth a gawn.

Er bod yn llesg a gwyw,
  Yn flin dan fynych loes,
Cawn nerth ym mhresenoldeb Duw
  I ganu dan y groes.

'R ŷm weithiau'n taro tant
  Yn awr am nerth wrth raid;
Ond pan ddaw 'ngyd bob un o'r plant,
  Yr anthem byth ni phaid.
bod yn :: yma'n

David Lewis 1844-1917

Tonau [MB 6686]:
Aylesbury (Salmydd Chetham 1718)
Shawmut (Lowell Mason 1792-1872)

(The Journey home)
Through a thousand oppressions
  Is going to the heavenly land;
The journey is long and the way is narrow
  To our Father's delightful house.

The troubles which are,
  Are to be only for an afternoon;
and when we reach the land of the day
  We will have endless joy.

Although being weak and faint,
  Weary under frequent anguish,
We will get strength in God's presence
  To sing under the cross.

We sometimes strike a chord
  Now for strength in need;
But when all the children come together,
  The anthem will never stop.
being :: here

tr. 2009 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~