Trwy flinderau yr anialwch, Drwy elynion fwy na rhi', Drwy dymhorau o dywyllwch, Ceisiaf, Iôr, dy ddilyn Di: Rho dy hedd, rho dy wedd I'm hamddiffyn hyd fy medd. Tua'r nef yr wyf yn teithio, I drigfannau'r bywyd gwyn; Mae dy lwybrau yn goleuo Heibio i'r groes i Seion fryn: Dod im ffydd, Dad y dydd, Nes bod f'enaid gwan yn rhydd. Mae fy nghalon yn ddolurus, Am fod pechod ynddi'n byw; Mae fy nheimlad yn ofidus: Mor annhebyg wyf i Dduw! Dyner nef, clyw fy llef, Gwna fi'n debyg iddo Ef.Ben Davies 1864-1937
Tonau [8787676]: |
Through the afflictions of the desert, Through enemies beyond number, Through seasons of darkness, I will try, Lord, to follow Thee: Give thy peace, give thy presence To defend me as far as my grave. Towards heaven i am travelling, To the dwellings of the blessed life; Thy paths are enlightening Past the cross to Zion hill: May faith come to me, Father of the day, Until my weak soul is free. My heart is sad, Since sin is living in it; My feeling is grievous: How unlike I am to God! Tender heaven, hear my cry, Make me similar to Him!tr. 2015 Richard B Gillion |
|