Adda, a Chymod Crist.) Trwy gamwedd un aeth dynolryw, Tan gyfiawn farn digofaint Duw; Yn Adda meirw y'm i gyd, Er cyn ymddangos yn y byd. Ond os trwy anufudd-dod un, Y daeth marwolaeth ar bob dyn; Trwy un, - a'i bur ufuddol waith, Daeth bywyd o gamweddau maith. Yn mhell uwchlaw y camwedd cas, Yr ymddyrchafodd dwyfol ras; O herwydd trwy un trosedd caeth, Ar bob rhyw ddyn y farn a ddaeth. Ond wele ras, rhyfeddol yw! Oddiwrth gamweddau o bob rhyw, Yn rhoddi perffaith wir ryddhad, I ni, a hylwydd gyfiawnhad. A lle teyrnasodd pechod cas, Ar ddynolryw, trwy'r ddaiar las, Teyrnasa gras tros fyth rhagllaw, Nes cyraedd tragwyddoldeb draw.Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) 1766-1850 Gardd Eifion 1841 [Mesur: MH 8888] |
Adam, and the Reconciliation of Christ.) Through the transgression of one humankind went Under the righteous judgment of the wrath of God; In Adam dying are we all, Ever since he appeared in the world. But if through the disobedience of one, Came death upon every man; Through one, - and his pure obedient work, Came life from vast transgressions. Far above the detestable transgression, Divine grace arose; Because through one captive transgression, Upon every kind of man the judgment came. But see grace, wonderful it is! From transgressions of every kind, Giving perfectly true freedom, To us, and bountiful righteousness. And where detestable sin reigned, Over humankind, throughout the blue-green earth, Grace shall reign for ever instead, Until reaching eternity yonder.tr. 2016 Richard B Gillion |
|