Dymunwn Arglwydd ger dy fron
Trwy ras 'rwyf Arglwydd ger dy fron

("Yr ydym ni yn ei garu Ef")
Trwy ras 'rwyf, Arglwydd, ger dy fron
  Yn rhoi fy nghalon iti;
Ti'm ceraist i, er maint fy mai -
  Ni allaf lai na'th garu.

Mi haeddais fod yn awr â'm nyth
  Yn uffern byth yn poeni;
'Rwyt wrthyf wedi trugarhau -
  Ni allaf lai na'th garu.

Caf ddyfod i'r gogoniant maith,
  I ben fy nhaith at Iesu;
Caf fyned draw i'r man lle mae -
  Ni allaf lai na'i garu.

I'r Tad, i'r Mab,
    a'r Ysbryd Glân,
  Rhof glod ar dân
      heb dewi;
Y Tri yn Un, a'r Un yn Dri,
  Mae f'enaid i'n ei garu.

               - - - - -
(Cariad at Dduw)
1,2,3,(4,5).
Dymunwn, Arglwydd, ger dy fron,
  Ro'i 'nawr fy nghalon iti;
Ti'm ceraist i er maint fy mai,
  Ni allaf lai na'th garu.

Mi haeddais fod yn awr â'm nyth
  Yn uffern byth yn poeni;
Ond Ti sydd wedi trugarhau;
  Ni allaf lai na'th garu.

Yn hir bum mewn trueni mawr,
  Heb brisio fawr am Iesu;
Yn awr i mi mor werthfawr mae!
  Ni allaf lai na'i garu.

Bu Iesu farw er fy mwyn,
  Bu farw i'm gwaredu;
Mae cofio hyn yn enyn swyn, -
  Nas gallaf lai na'i garu.
                              
Fe ddaeth i'r byd i fyw yn dlawd,
  Mewn dirmyg a thylodi;
Er bod i rai yn destyn gwawd, -
  Nis gallaf lai na'i garu.
Mr John Jones, Sir Gaerfyrddin -1747-
Aleluia (Cas. William Williams) 1749

Tonau [MS 8787]:
Capel Cynon (Hugh Jones 1749-1825)
Dominus regit me (J B Dykes 1823-76)
Elizabeth (Rowland H Prichard 1811-87)
Neuadd las (J T Rees 1857-1949)
Padarn (Ieuan Gwyllt 1822-77)

gwelir: Yn hir bum mewn trueni mawr

("We love Him.")
Through grace I am, Lord, before thee
  Giving my heart to thee;
Thou lovedst me, despite my fault -
  I can do no less than love thee.

I deserved now to have my nest
  In hell forever suffering pain;
Thou didst have mercy on me -
  I can do no less than love thee.

I may get to come to thy vast glory,
  At the end of my journey to Jesus;
I may get to go over to the place he is -
  I can do no less than love thee.

To the Father, to the Son,
    and the Holy Spirit,
  I will give praise on fire
      without ceasing;
The Three in One, and the One in Three,
  My soul loves him.

                 - - - - -
(Love towards God)
 
I would wish, Lord, before thee,
  To give my heart to thee;
Thou lovedst me, despite my fault -
  I can do no less than love thee.

I deserved now to have my nest
  In hell forever suffering pain;
But Thou hast had mercy;
  I can do no less than love thee.

Long was I in great misery,
  Without greatly valuing Jesus;
Now to me how precious he is!
  I can do no less than love him.

Jesus died for my sake
  He died to deliver me;
Remembering this is kindling enchantment, -
  I can do no less than love him.

He came to the world to live poor,
  In scorn and poverty;
Although to some a theme of shame, -
  I can do no less than love him.
tr. 2012,15 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~